Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Dydd Iau 18 Mai 2023 |
Mewngofnodi am 9.15am
Dechrau am 9.30am – 12.30pm |
Zoom |
AC Education |
Gofalwyr maeth |
Dydd Mawrth 3 Hydref 2023 |
Mewngofnodi am 5.45pm
6.00pm – 9.00pm |
Zoom |
AC Education |
Gofalwyr maeth |
Nodau ac amcanion y cwrs:
- Gallu gweithredu strategaethau ymarferol wedi’u diffinio’n eglur i leihau sefyllfaoedd o wrthdaro.
- Deall pwysigrwydd iaith y corff a’r dewis o eiriau yn ystod cyfnod trafod y gwrthdaro.
- Adnabod pwysigrwydd ofn ac emosiynau yn ystod y cylch o wrthdaro.
- Gallu fframio’r broses gwneud penderfyniadau drwy ddefnyddio seicoleg gadarn ac amlbwrpas.
- Diffinio canlyniadau eglur wrth orfod wynebu trais a gwrthdaro.
- Teimlo awdurdod a meistrolaeth wrth ddelio gyda gwrthdaro, trais a sefyllfaoedd dan straen sylweddol
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynd arno, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.