Manylion y cwrs:
Nod: Bydd y gofalwr maeth yn gallu nodi ffyrdd o gydbwyso anghenion eu plentyn/plant eu hunain ac anghenion y plentyn yn y lleoliad.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Dydd Iau 21 Mawrth 2024 |
9:15am cyrraedd i gofrestru 9.30am - 14.30pm |
Zoom |
CAN Training Ltd |
Gwasanaethau Targed - Gofalwyr Maeth a Thîm Maethu
Grŵp Targed - Gofalwyr Maeth a Thîm Maethu |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Canlyniadau dysgu
- Cydnabod rôl allweddol meibion a merched o ran lleoliadau maethu llwyddiannus
- Myfyrio ar yr effaith ar feibion a merched ac ystyried sut y gellir bodloni eu hanghenion
- Rhoi ystyriaeth i’r teulu estynedig a sut y caiff materion megis cyfrinachedd eu rheoli, yn enwedig pan fyddant yn chwarae rôl gefnogi allweddol
- Nodi ffyrdd o gydbwyso anghenion eu plentyn eu hunain ac anghenion y plentyn yn y lleoliad
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.