Mentor Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol, Emma Thomas
I gysylltu ag Emma, anfonwch e-bost at gofalwncymru@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 576466.
Mae Emma yn gallu:
- Adnabod a helpu unigolyn i oresgyn rhwystrau amrywiol i gyflogaeth
- Eich cefnogi i gael hyfforddiant cyn cyflogaeth sydd ar gael drwy Gofal Cymdeithasol Cymru a Gwasanaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol Conwy
- Eich cefnogi i ysgrifennu CV gyda chyngor ac arweiniad, prosesau ymgeisio a chyfweliadau a chefnogaeth barhaus yn y gwaith.
- Hwyluso lleoliadau gwaith ar gyfer myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngrŵp Llandrillo Menai a’ch cefnogi gyda ‘sesiynau blasu’ mewn lleoliadau gofal mewn ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth ar draws Sir Conwy.
- Rhoi cefnogaeth yn y meysydd hyn:
- Gweithiwr Gofal Cymdeithasol: cefnogi unigolion yn y gymuned neu mewn lleoliad gofal
- Arlwyo a domestig mewn lleoliadau gofal
- Swyddi gweinyddu
- Gofal plant blynyddoedd cynnar
- Cymryd rhan mewn ffeiriau swyddi a digwyddiadau cymunedol eraill