Rydym yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (GPDGGCC) er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad i weithlu Gofal Cymdeithasol Conwy gan gynnwys ein darparwyr a’n partneriaid yn Sir Conwy.
Mae cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad yn agored i’r sector Gofal Cymdeithasol cyfan, er enghraifft gwirfoddolwyr, derbynwyr tâl uniongyrchol, unigolion gyda chyfrifoldebau gofalu (oedolion sy’n ofalwyr a gofalwyr ifanc) a gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae cynlluniau gweithlu rhanbarthol a lleol ar waith sy’n nodi ac yn sicrhau gweithrediad mesurau i sicrhau gweithlu digon mawr, medrus, diogel ac sydd â ffocws i hybu lles pobl ag anghenion gofal a chefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- cefnogi recriwtio a chadw
- gallu a chymwysterau
- llwybrau gyrfa
- datblygu sgiliau unigolion i gydymffurfio â chodau ymarfer proffesiynol o fewn y sector