Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

CareTutor / BVS


Summary (optional)
start content

Mae Gwasanaeth Gweithlu Conwy wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi ar-lein, sydd ar gael drwy CareTutor / BVS, er mwyn darparu ffordd hyblyg i’ch timau staff ddysgu.

Mynediad ar-lein

Gallwch fanteisio ar unrhyw fodiwl e-ddysgu ar y rhestrau o fodiwlau sydd ar gael.

Mae’n well gan rai aelodau o staff wneud y modiwlau ar amser sy’n fwy cyfleus iddyn nhw; fe ddylech anfon ceisiadau am fynediad at y modiwlau yma at hyfforddiant.gc@conwy.gov.uk gan nodi enw’r unigolyn, enw’r sefydliad, cyfeiriad e-bost personol a theitl y modiwl.

Bydd modiwlau heb eu cwblhau o fewn 3 mis o’r dyraniad yn cael eu dileu ar gyfrif y defnyddiwr.

Sesiynau ymgyfarwyddo

Fel arall gall Tîm y Gweithlu gynnig sesiwn ymgyfarwyddo undydd wyneb yn wyneb, i ddangos i’ch staff sut i gael mynediad at y modiwlau ar iPad a’u cefnogi nhw i gysylltu’r iPad â’r wifi a chanfod y modiwlau perthnasol (darperir iPad). 

Yn ystod y sesiwn ymgyfarwyddo gallwn gynnig cymorth i gwblhau’r modiwlau cymhwysedd craidd canlynol:

  • Datblygu fel gweithiwr
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 
  • Parch ac urddas 
  • Cyfathrebu effeithiol 1 a 2 (sy’n cynnwys awgrymiadau ar gadw cofnodion) 
  • Atal a rheoli heintiau
  • Gofal dementia 1: Deall dementia 
  • Gofal dementia 2: Gofal dementia sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn 
  • Atal briwiau pwyso

Amodau mynediad at fodiwlau mewn sesiwn ymgyfarwyddo:

  • Os ydych chi’n dewis cael sesiwn ymgyfarwyddo, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad a lleoliad cyfleus o fewn cyfnod o dri mis. Gallwn ddod i’ch sefydliad chi neu fe allwn chwilio am ystafell hyfforddi yng Nghoed Pella, Bae Colwyn.
  • Bydd angen i chi roi gwybod i ni sawl aelod o staff sydd angen mynediad at y modiwlau (hyd at 8 ymhob sesiwn).
  • Os byddwn ni’n darparu’r hyfforddiant yn eich lleoliad chi, gwnewch yn siŵr bod y cysylltiad wifi yn un da, bod digon o le a bod y staff yn cael eu rhyddhau i fynd i’r hyfforddiant ar y diwrnod a ddewisir.

Os hoffech chi gael unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch e-bost at hyfforddiant.gc@conwy.gov.uk.

Tudalen nesaf:  Sut mae'r modiwlau'n gweithio

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content