Nodau ac amcanion y cwrs:
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i'r gwerthoedd sy'n sail i Ofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn mewn Cartrefi Gofal.
Mae'r cwrs hwn yn bwriadu datblygu eich dealltwriaeth o sut y dylid adlewyrchu Egwyddorion Gofal yn eu harferion o ddydd i ddydd, drwy archwilio gwerthoedd Hunaniaeth, Hawliau, Dewis, Preifatrwydd, Annibyniaeth, Urddas, Parch a Phartneriaeth.
Mae’r pynciau a gwmpesir yn cynnwys:
- Y 6C
- Meithrin Perthnasau
- Lles
- Gwerthoedd sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
- Hunaniaeth
- Hawliau
- Dewis
- Preifatrwydd
- Annibyniaeth
- Urddas
- Parch
- Partneriaeth
- Cynlluniau Gofal
Manylion y cwrs:
Hyd y cwrs: 1 awr gan gynnwys Cwis Asesu
- Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
- Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
- Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk
Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.