
Mae Prom a Mwy yn ddigwyddiad teuluol sy'n cael ei gynnal ar hyd promenâd Bae Colwyn ddydd Sadwrn 10 Mai 2025.
Mae llwythi o weithgareddau AM DDIM yn Prom a Mwy i ddifyrru’r teulu. Bydd yno hefyd ffair fach i godi gwallt eich pen, digonedd i’w fwyta a’i yfed, stondinau yn gwerthu popeth ac adloniant i bawb! Hefyd, wrth gwrs, fe fyddwn ni’n manteisio ar ein traeth bendigedig.
Bydd ein holl stondinau, elusennau ac arddangoswyr wedi’u gwasgaru ar hyd a lled y safle, gydag amrywiaeth eang fel danteithion blasus, addurniadau gardd, recriwtio, gemwaith unigryw a mwy.
Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref i unrhyw fasnachwyr, arddangoswyr neu elusennau sy’n dymuno gwneud cais am le.