Prom a Mwy yw ein digwyddiad teuluol blynyddol, sy'n cael ei gynnal ddydd Sadwrn 10 Mai eleni ar hyd promenâd Bae Colwyn. Mae’r digwyddiad poblogaidd hwn sy’n denu miloedd o bobl yn llenwi safle 1 cilomedr o hyd gyda gweithgareddau am ddim i’r teulu, adloniant byw, stondinau elusennau ac atyniadau ffair. Mae Prom a Mwy yn ddigwyddiad lle mae’r gymuned yn dod ynghyd am ddiwrnod o hwyl i’w gofio!
Gyda digonedd o weithgareddau am ddim i’r teulu eu mwynhau, mae Prom a Mwy yn ddigwyddiad cymunedol ei naws gyda nifer o'r ymwelwyr yn dod o ardal Bae Colwyn, ac mae hefyd yn denu rhai o bob cwr o Ogledd Cymru a thu hwnt.
Mae Prom a Mwy yn cynrychioli ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref Bae Colwyn i ddarparu digwyddiadau fforddiadwy a chyffrous ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr ac mae’n gyfle gwych i fusnesau a sefydliadau lleol ymgysylltu â’r cyhoedd a rhoi rhywbeth yn ôl i’r ardal maent yn ei gwasanaethu.
Pam noddi Prom a Mwy?
Dyma gyfle gwych i fusnesau hyrwyddo eu hunain o flaen cynulleidfa darged o dros 10,000 o bobl a bydd ein tîm yn Nigwyddiadau Conwy yn gweithio gyda’ch cwmni er mwyn i'ch brand gael cymaint o sylw â phosib', eich helpu i ymgysylltu â’r gymuned a chefnogi eich amcanion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
Gall noddwyr Prom a Mwy ddisgwyl:
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’u brand o flaen cynulleidfa darged yn Prom a Mwy
- Budd o gael stondin a/neu bresenoldeb gweithgaredd yn y digwyddiad
- Mwy o welededd i'w brand ar y cyfryngau cymdeithasol
- Cael logo eu cwmni wedi’i ychwanegu ar dudalen we cefnogwyr Prom a Mwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cael hyrwyddo cystadlaethau/cynigion cwmni drwy gyfryngau cymdeithasol Prom a Mwy a/neu o lwyfan y digwyddiad yn ystod y diwrnod
- Cael platfform i ymgysylltu â’r gymuned am eu busnes
- Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol – cyfle i ddangos ymrwymiad y cwmni i faterion cymdeithasol/amgylcheddol wrth ddatblygu delwedd gadarnhaol i’w brand o fewn y gymuned
- Defnyddio’r digwyddiad i arddangos yr hyn sydd gan y cwmni i’w gynnig
"Rydyn ni'n dod i Prom a Mwy ers blynyddoedd. Rydyn ni'n ddiolchgar am eu cefnogaeth nhw, gan fod hynny'n caniatáu i ni gysylltu gyda chwsmeriaid hen a newydd” - Martin Anderson, Piggin Delicious.
Ffyrdd o gefnogi
Noddi gweithgaredd o £200:
- Llain am y diwrnod cyfan ar gyfer gweithgareddau a hyrwyddo
- Poster ger y gweithgaredd a gytunwyd gyda brand y cwmni
- Logo ar ein tudalen we ‘Cefnogwyr y Digwyddiad’
- Neges cyfryngau cymdeithasol ar dudalennau Digwyddiadau Conwy ac Events Conwy yn cyrraedd 26,000 o ddilynwyr ar draws Facebook, Instragram a Twitter
- Sylw gan y cyflwynydd
Lle ar gyfer stondin o £100 / lle ar gyfer stondin elusen £50:
- Cyfle i’ch cwmni hyrwyddo ac ymgysylltu â’r teuluoedd
Am fwy o wybodaeth neu i drafod pecyn unigryw, gallwch gysylltu â Sophie Marshall, Swyddog Digwyddiadau at sophie.marshall@conwy.gov.uk.