Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Ymwelwyr Digwyddiadau WRGB archive Bae Colwyn yn Gartref i Ddrama Pencampwriaeth Y Byd

Bae Colwyn yn Gartref i Ddrama Pencampwriaeth Y Byd


Summary (optional)
  • Promenâd glan y môr fydd cartref prawf cyflymder newydd Rali Cymru GB
  • Digwyddiad ar ddydd Sadwrn yn cyflwyno’r gamp i gynulleidfaoedd newydd
  • Cefnogaeth gan AGB Colwyn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Bydd tocynnau ar werth ymlaen llaw yn nigwyddiad Prom a Mwy'r penwythnos hwn
  • Bydd tocynnau ar werth i'r cyhoedd unwaith y cyhoeddir y llwybr cystadleuol llawn
start content

Bydd cyrchfan glan y môr Bae Colwyn ar arfordir Gogledd Cymru yn gartref i ddrama Pencampwriaeth Rali’r Byd FIA yr Hydref hwn.

Er na fydd llwybr cystadleuol llawn ar gyfer Rali Cymru GB eleni (3-6 Hydref) yn cael ei ddatgelu tan ddiwedd mis Mai, cyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth) y bydd y digwyddiad yn cynnwys prawf cyflymder dramatig newydd ar Bromenâd poblogaidd y dref.

Mae’r newyddion hwn yn ehangu presenoldeb y digwyddiad byd eang yn Sir Conwy, yn dilyn cadarnhad bod Pencadlys y Rali a’r Parc Gwasanaethau canolog yn symud i ganol Llandudno. Mae’r newyddion yn dod cyn y digwyddiad teuluol Prom a Mwy'r penwythnos hwn ym Mae Colwyn, a bydd presenoldeb Rali Cymru GB yn amlwg yno.    

Mae’r prawf cyflymder newydd ym Mae Colwyn fis Hydref wedi ei drefnu yn gynnar nos Sadwrn (5 Hydref) er mwyn ehangu ei apêl. Dyma fydd prif ddigwyddiad y rhaglen lawn o weithgareddau ac adloniant ar thema ceir.

Wedi’i leoli tu ôl i draeth eang hardd, mae’r Promenâd hir wedi cael ei ailddatblygu yn ddiweddar gan greu atyniad gwych ar gyfer trigolion ac ymwelwyr. Mae atyniadau glan y môr eraill yn cynnwys canolfan chwaraeon dŵr o’r radd flaenaf a Bistro Porth Eirias sy’n cael ei redeg gan y cogydd enwog Bryn Williams.

Bydd cynnal cymal Pencampwriaeth Rali’r Byd yn dod â bri pellach i Fae Colwyn a’r rhanbarth cyfan, gyda chwrs arbennig dwy filltir (tri chilometr) wedi’i gynllunio ar gyfer y Promenâd, gan gynnwys rhwystrau gosod, donyts a bachdroeon gyda chystadleuwyr yn rasio’n unigol yn erbyn y cloc.

Gydag injan tyrbo â marchnerth 380+ o dan y bonet, a systemau uwch dechnoleg pedair olwyn yn cael eu gyrru gan yrwyr mwyaf amryddawn y byd, bydd cyflymder a chywirdeb y genhedlaeth ddiweddaraf o Geir Rali'r Byd yn darparu gwledd gofiadwy – ymhell o fywyd bob dydd ar y Promenâd.

"Bydd y digwyddiad glan y môr ar y nos Sadwrn yn wahanol i unrhyw beth mae Bae Colwyn wedi’i weld o’r blaen; ac yn gyferbyniad llwyr i goedwigoedd Cymru wledig lle mae mwyafrif o ddrama’r rali’n cael ei gynnal,” dywedodd Hugh Chambers, Prif Weithredwr Motorsport UK, trefnydd a hyrwyddwr Rali Cymru GB. “Rhan o’r hyn yr ydym yn ei wneud yn y rali eleni yw dod â gwir gyffro’r gamp i leoliadau lle gall llawer mwy o gefnogwyr fwynhau’r cyffro. Gobeithio bydd nifer fawr o’r rhai fydd yn mwynhau’r profiad ym Mae Colwyn yn mentro allan i’r coedwigoedd i weld ralio pencampwriaeth y byd yng Nghymru wyllt." 

Mae brwdfrydedd a chefnogaeth AGB Colwyn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn hanfodol i ddod â Phencampwriaeth Rali'r Byd i lan y môr Bae Colwyn.

Mae tocynnau i oedolion ar gyfer cymal arbennig Bae Colwyn yn £15 ymlaen llaw gyda mynediad am ddim i’r rhai 15 oed ac iau. Bydd y rhai sy’n mynychu Prom a Mwy  yn cael cyfle cynnar i brynu’r tocynnau cyn iddynt fynd ar werth yn ddiweddarach y mis hwn pan gyhoeddir y llwybr llawn.

end content