Bydd gan Rali Cymru GB (3-6 Hydref) gartref egnïol newydd yng nghanol tref Llandudno ar arfordir gogledd Cymru.
Gyda chefnogaeth frwd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae’r cyrchfan poblogaidd wedi bod yn nodwedd gyson dros y blynyddoedd wrth gynnal y Seremonïau Cychwyn a Gorffen swyddogol.
Ar ben hynny, roedd strydoedd y dref yn rhan o hanes mis Hydref y llynedd, pan fu cyfle i gefnogwyr brofi ysblander chwaraeon rali a moduro'r Bencampwriaeth Ryngwladol ar ffyrdd cyhoeddus wedi’u cau, am y tro cyntaf erioed ar dir mawr Prydain.
Yn newydd ar gyfer 2019, bydd yr holl dimau sy’n cystadlu yn rownd enwog Prydain ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd FIA yn cael eu lleoli yn Llandudno am y tro cyntaf erioed, ynghyd â lleoli pencadlys prysur y digwyddiad rhyngwladol yn Venue Cymru.
Ers chwe blynedd bellach, mae Rali Cymru GB wedi'i gynnal ger ffatri beiriannau Toyota yng Nglannau Dyfrdwy, yn dilyn adfywiad o leoliad y digwyddiad i Ogledd Cymru yn 2013.
Mae'r trosglwyddiad i Landudno nid yn unig yn caniatáu cynulleidfa newydd canol tref i brofi cyffro’r padog ac ardaloedd y ceir, ond hefyd yn cynhyrchu buddion economaidd sylweddol i’r dref a sawl gwesty, siopau a busnesau eraill.
Yn ogystal â hyn, bydd strydoedd a phromenâd enwog y dref dan ei sang gydag adloniant, tra bydd y digwyddiad Big Bang rhyngweithiol ac ymgysylltiol yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr sy'n astudio pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
“Mae Motorsport UK yn falch iawn o ddod ag atmosffer a bri Parc Gwasanaeth Pencampwriaeth Rali'r Byd i Landudno, ac i greu ardal gefnogwyr rhyngweithiol i'r dref; ond mae'n rhaid i ni ddiolch yn fawr i bawb yn Toyota - ynghyd â'n partneriaid lleol yng Nglannau Dyfrdwy a Chyngor Sir y Fflint - am chwarae rôl mor allweddol wrth ein helpu i ailsefydlu rownd y DU fel un o glasuron calendr Pencampwriaeth Rali'r Byd", meddai Hugh Chambers, Prif Weithredwr Motorsport UK, trefnydd a hyrwyddwr Rali Cymru GB.
“Fel ein partner, a’r Sir fydd yn cynnal y digwyddiad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn un o'r grymoedd allweddol tu ôl i adfywiad y digwyddiad ac rydym yn gwneud y mwyaf o barhau’r bartneriaeth honno yn ystod yr hydref. Mae sawl atyniad a chyfle yn codi o leoli'r Bencampwriaeth Ryngwladol yng nghanol y dref, a byddwn yn cydweithio'n agos gyda'r Cyngor i greu gŵyl fythgofiadwy o chwaraeon moduro ynghanol Llandudno ei hun."
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn gefnogwr brwd o Rali Cymru GB ers amser maith, ac maent yr un mor frwdfrydig o weld Pencampwriaeth Rali’r Byd yn dod i Landudno.
“Rydym wedi cyffroi o wybod mai Sir Conwy fydd yn cynnal y digwyddiad mawreddog hwn eto, ond mae eleni yn fwy arbennig eto gyda Llandudno yn leoliad i’r Bencampwriaeth Ryngwladol,” meddai’r Cynghorydd Louise Emery, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. “Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Rali Cymru GB ers 2009 a phob blwyddyn mae nifer y gwylwyr sy’n cael eu denu i Sir Conwy yn cynyddu, a nawr, mae cael y gwneuthurwyr a’r timau gyda ni yn gyffrous iawn. Mae’r sylw rhyngwladol a roddir i’r digwyddiad hwn yn y cyfryngau yn helpu i roi Sir Conwy ar y map, felly rydym yn croesawu’r cyfle i weithio gyda'r tîm rali unwaith eto, yn enwedig gyda’r datblygiadau newydd.”
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Mae Rali Cymru GB yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr digwyddiadau Cymru – mae wedi hen ennill ei blwyf yng Ngogledd Cymru ac yn rhan hanfodol o ddigwyddiad ehangach rhyngwladol. Rwy'n falch iawn bod y trefnwyr unwaith eto yn edrych ar ffyrdd o gyflwyno elfennau newydd a gwella'r profiad i ymwelwyr. Bydd y symudiad hwn yn golygu y daw Llandudno yn ganolbwynt gweithgarwch i wylwyr a chystadleuwyr gan greu awyrgylch gŵyl yn ystod y digwyddiad ym mis Hydref, bydd hefyd yn denu ymwelwyr sydd yn newydd i Ralio fel camp. Bydd hyn yn hwb ychwanegol i'r dref ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar ddatblygiadau newydd a chyffrous a ddaw yn sgil y symud."
Mae rhagolygon o gael Rali Cymru GB cyffrous arall eisoes yn cynyddu, ar ôl i dair rownd gystadleuol iawn eleni o Bencampwriaeth Rali’r Byd FIA ym Monte Carlo, Sweden a Mecsico danlinellu cystadleurwydd presennol y gyfres.
Gyda buddugoliaethau a phwyntiau pencampwriaeth yn cael eu rhannu gan y prif gymeriadau, bydd brwydrau’r Gyrwyr a’r Gwneuthurwyr yn cyrraedd eu hanterth pan fydd y timau’n cyrraedd y DU ar gyfer rowndiau 12 o 14 yng nghalendr ehangach Pencampwriaeth Rali'r Byd.
Bydd tocynnau ar gyfer Rali Cymru GB ar ei newydd wedd yn mynd ar werth yn y gwanwyn, pan fydd llwybr cystadleuol eleni yn cael ei gyhoeddi.