Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Ymwelwyr Digwyddiadau WRGB archive Arddangoswyr Ffurflen archebu arddangoswr

Ffurflen archebu arddangoswr


Summary (optional)
Cyn i chi archebu, darllenwch a chytunwch i'r Telerau ac Amodau Archebu.
start content

Ffurflen archebu i arddangos yn nigwyddiad Big Bang Rali Cymru GB 2019

 

Cyn i chi archebu, darllenwch a chytunwch i'r Telerau ac Amodau Archebu isod.

Telerau ac Amodau Archebu

  1. Cais am le / Dyrannu lle – Mae’n rhaid cyflwyno ffurflen archebu wedi'i llenwi ymlaen llaw ar gyfer gwneud cais i arddangos yn y BIG BANG yn Rali Cymru GB.  Rhoddir gwybod i arddangoswyr o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn ffurflen archebu wedi’i chwblhau o ran y statws derbyn. Neilltuir stondinau yn amodol ar argaeledd. Mae'r Trefnydd yn cadw'r hawl ar unrhyw adeg i ad-drefnu cynllun neu ddyraniad y lle. Rhowch cymaint â phosibl o fanylion arddangos.
  2. Arddangoswr yn Canslo -  Unwaith y bydd y ffurflen archebu wedi'i derbyn, bydd yn rhaid i unrhyw Arddangoswr sydd wedyn yn penderfynu tynnu’n ôl o’r digwyddiad am unrhyw reswm roi gwybod ar unwaith i'r Trefnydd yn ysgrifenedig.
  3. Newid Dyddiad neu Leoliad / Canslo’r Digwyddiad - Mae'r Trefnydd yn cadw'r hawl ar unrhyw adeg i newid dyddiad a/neu leoliad y Digwyddiad neu ei ganslo'n gyfan gwbl os ydynt yn ei ystyried yn angenrheidiol oherwydd tân, llifogydd, tywydd eithafol, gweithredoedd o ryfel neu drais, difrod maleisus, ffrwydrad, daeargryn, streic, aflonyddwch sifil, aflonyddwch gwleidyddol, terfysg, anghydfod llafur, toriadau pŵer neu unrhyw achos arall y tu hwnt i reolaeth y Trefnydd; neu os yw'r Trefnydd am unrhyw reswm arall yn ystyried ei fod yn angenrheidiol neu'n ddoeth gwneud hynny. Mewn achosion o’r fath, byddai’r Arddangoswr yn ildio unrhyw hawliadau a allai fod ganddo yn erbyn y Trefnydd am ad-daliadau, iawndal neu dreuliau.

    Trefniadau gosod, staffio a chael gwared ar wybodaeth Arddangosfeydd i'w cyhoeddi.

  4. Offer - Mae unrhyw offer neu offer trydanol y mae'r Arddangoswr yn bwriadu ei ddefnyddio ar gyfer y Digwyddiad yn gofyn am Dystysgrif Prawf Dyfeisiau Cludadwy cyfredol (P.A.T.).

    Rhaid i'r holl stondinau, ffitiadau a deunyddiau y mae'r Arddangoswr yn bwriadu eu defnyddio ar gyfer y Digwyddiad fod yn wrth-dân yn unol â'r ddeddfwriaeth briodol.

    Mae'r Trefnydd yn cadw'r hawl i fynnu bod yr arddangoswr yn tynnu unrhyw beth o'i stondin nad yw wedi'i ardystio'n briodol neu yr ystyrir yn anaddas, yn ôl disgresiwn absoliwt. Bydd yr Arddangoswr yn indemnio’r Trefnydd yn erbyn yr holl gamau gweithredu, costau, hawliadau a galwadau mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri darpariaethau'r cymal hwn.
  5. Diogelwch - Bydd yr Arddangoswr yn cadw at yr holl ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gyfredol ac yn cydweithredu â'r Trefnydd i sicrhau bod y Digwyddiad yn amgylchedd diogel ac iach i'r holl Arddangoswyr, Ymwelwyr a Staff a fydd yn dod i’r Digwyddiad neu'n gweithio yno. 

    Yr Arddangoswr sy’n gyfrifol am ddiogelwch eu stondin a’u Hyswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus eu hunain, yn ogystal ag yswiriant am unrhyw stoc a chyfarpar. Bydd yn ofynnol i arddangoswyr ddarparu copi o'u Hasesiad Risg a'u Tystysgrif Yswiriant ar gais.
  6. Atebolrwydd - Nid yw'r Trefnydd yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am golled, difrod na diflaniad unrhyw eiddo a ddefnyddir gan yr Arddangoswr mewn cysylltiad â'u cyfranogiad yn y digwyddiad. Mae'r Arddangoswr yn cytuno i gymryd risg o golled ar gyfer ei eiddo neu unrhyw eitemau eraill sy'n ymwneud â'i gyfranogiad yn y digwyddiad ac yn cytuno i ildio unrhyw hawliadau, a chadw’r Trefnydd yn ddiniwed o ac yn erbyn unrhyw golled, difrod neu ddiflaniad eiddo neu eitemau o'r fath. Er bod y Trefnydd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod llenyddiaeth yn gywir wrth fynd i'r wasg, ni fydd yn atebol am unrhyw wall argraffu sy'n ymddangos mewn unrhyw lenyddiaeth sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.
  7. Is-osod - Ni all yr Arddangoswr is-osod unrhyw ran neu unrhyw le i arddangos heb ganiatâd ysgrifenedig y Trefnydd ymlaen llaw.
  8. Aflonyddwch - Rhaid i'r Arddangoswr sicrhau bod unrhyw sain sy'n dod o'u stondin yn cael ei reoli fel nad yw'n achosi unrhyw annifyrrwch i arddangoswyr eraill. Mewn achos unrhyw anghydfod, penderfyniad y Trefnydd yw'r un terfynol.
  9. Torri Telerau ac Amodau - Os yw'r Arddangoswr yn torri unrhyw un o'r Telerau ac Amodau a gynhwysir yma, mae'r Trefnydd yn cadw'r hawl, heb rybudd i'r Arddangoswr, i gynnig y stondin i gwmni arall neu ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd y mae'n ei ystyried yn addas.
  10. Yswiriant - Heb gyfyngu ar unrhyw rwymedigaeth(au) o dan y Cytundeb hwn, bydd yr arddangoswr yn caffael ac yn cynnal ar ei gost ei hun a thrwy gydol y Tymor, y lefelau Yswiriant canlynol o leiaf:

    (a) Atebolrwydd Cyhoeddus - £5,000,000 unrhyw un hawliad
    (b) Atebolrwydd Cyflogwr - £10,000,000
    (c)  Unrhyw yswiriannau eraill sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith

    Rhaid i'r cwmni ddarparu copïau ar gais o’r dystysgrif Yswiriant a manylion polisi, ynghyd â thystiolaeth bod y premiymau sy'n daladwy o dan bolisïau o'r fath wedi'u talu a bod yr yswiriannau mewn grym ac effaith lawn yn unol â'r amod hwn.

    Rhaid i’r Trefnydd gynnal yswiriant atebolrwydd cyhoeddus priodol.

  11. Force Majeure - Ni fydd y naill Grŵp na'r llall yn gyfrifol, nac yn cael ei ystyried yn ddiffygiol, o ran cyflawni ei rwymedigaethau o ganlyniad i achosion sydd y tu hwnt i'w reolaeth a heb eu rhagweld, gan gynnwys gweithredoedd Duw, rhyfel, rhyfel cartref, ymosodiadau neu fygythiadau terfysgol, unrhyw weithred gan y llywodraeth neu awdurdodau lleol gan gynnwys awdurdodau'r heddlu, boicot ac embargo, a all arwain, ymysg pethau eraill, at ganslo’r Digwyddiad, neu unrhyw ran ohono, neu ail-drefnu neu symud y Digwyddiad o un lleoliad i'r llall.  Cyn gynted ag y bo'n ymarferol, rhaid i bob Grŵp, ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiad tebygol sy'n dod o fewn darpariaeth Adran 6.3, hysbysu'r Grŵp arall am y digwyddiad hwnnw ac i ba raddau y mae'n debygol, a rhaid gwneud y canlynol: (a) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dileu digwyddiad o'r fath, ailddechrau ei berfformiad o dan y Cytundeb hwn; neu (b) gweithredu unrhyw ddatrysiad rhesymol arall y gellir ei drafod a'i gytuno ymhlith y Partïon er mwyn caniatáu i'r rhwymedigaethau barhau i gael eu cyflawni.  Os bydd digwyddiad force majeure o’r fath yn effeithio ar ran sylweddol o rwymedigaethau Grŵp am gyfnod di-dor o 30 diwrnod, yna gall y naill Grŵp neu'r llall ddewis terfynu'r Cytundeb hwn ar ôl rhoi rhybudd i'r Grŵp arall, ac os felly, caiff pob Grŵp ei ryddhau o unrhyw rwymedigaeth heb i'r naill Grŵp a'r llall dalu unrhyw atebolrwydd i'r Grŵp arall.

Cliciwch y blwch isod i barhau

'Rwyf wedi darllen a cytuno gyda'r telerau ac amodau

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content