Pwrpas gorfodi Atal a Rheoli Llygredd Awdurdod Lleol (LAPPC) ac Atal a Rheoli Llygredd mewn Ffordd Integredig Awdurdod Lleol (LA-IPPC) yw amddiffyn a gwella pob rhan o’r amgylchedd ac atal niwed i iechyd dynol. Yn arbennig, trwy atal neu leihau sylweddau sy’n llygru’r aer (ar gyfer gweithfeydd rheoledig LAPPC) ac sy’n llygru aer, tir a dŵr (ar gyfer gweithfeydd LA-IPPC) rhag cael eu rhyddhau o weithgareddau rhagnodedig penodol.
A oes angen y drwydded hon arnaf ac a ydw i'n gymwys?
Mae cyfleuster rheoledig yn cynnwys:
- gweithfeydd neu offer symudol sy'n cyflawni gweithgareddau a restrir
- gweithrediadau gwastraff
- offer symudol gwastraff
- gweithrediadau gwastraff cloddio
Mae'r gweithgareddau a restrir yn cynnwys:
- ynni - llosgi tanwydd, nwyeiddio, cyddwyso hylif a gweithgareddau puro
- metelau - gweithgynhyrchu a phrosesu metelau
- mwynau - gweithgynhyrchu calch, sment, cerameg neu wydr
- cemegau - gweithgynhyrchu cemegau, cynhyrchion fferyllol neu ffrwydradau, storio cemegau swmpus
- gwastraff - llosgi gwastraff, gweithredu safleoedd tirlenwi, adfer gwastraff
- toddyddion – defnyddio toddyddion
- eraill - gweithgynhyrchu papur, mwydion a byrddau coed, trin cynnyrch coed, caenu, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd, ffermio moch a dofednod dwys
Mae trwyddedau Rhan A yn rheoli gweithgareddau sydd ag ystod o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys:
- allyriadau i aer, tir a dŵr
- effeithlonrwydd ynni
- lleihau gwastraff
- defnyddio deunyddiau crai
- sŵn, dirgryniad a gwres
- atal damweiniau
Mae trwyddedau Rhan B yn rheoli gweithgareddau sy'n achosi allyriadau i’r aer.
Mae’r drwydded sydd ei hangen ar eich busnes yn dibynnu ar y prosesau penodol dan sylw a'r allyriadau a grëir o ganlyniad.
Mae trwyddedau ar gael gan Asiantaeth Yr Amgylchedd neu’ch awdurdod lleol (y rheolydd) yn dibynnu ar gategori’ch busnes:
- Caiff gweithfeydd neu offer symudol Rhan A(1) eu rheoleiddio gan Asiantaeth Yr Amgylchedd
- Caiff gweithfeydd neu offer symudol Rhan A(2) a Rhan B eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol, ar wahân i weithrediadau gwastraff a gyflawnir mewn gweithfeydd Rhan B sy’n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
- caiff gweithrediadau gwastraff neu offer symudol gwastraff a gyflawnir mewn mannau heblaw am weithfeydd, neu gan offer symudol Rhan A neu Ran B eu rheoleiddio gan Asiantaeth Yr Amgylchedd
- caiff gweithrediadau gwastraff cloddio eu rheoleiddio gan Asiantaeth Yr Amgylchedd
Beth sy’n rhaid i chi ei wneud?
Rhaid gwneud ceisiadau ar y ffurflen a ddarperir gan y rheolydd, neu ar-lein a rhaid cynnwys y wybodaeth a nodir a fydd yn amrywio yn dibynnu ar y math o weithrediad.
Rhaid i weithredwr y cyfleuster rheoledig gyflwyno’r cais.
Os bydd angen gwybodaeth bellach, bydd y rheolydd yn hysbysu'r ymgeisydd a bydd yn rhaid darparu'r wybodaeth hon neu bydd y cais yn cael ei dynnu'n ôl.
Ar gyfer gweithrediadau gwastraff ni roddir trwydded oni bai fod unrhyw ganiatâd cynllunio gofynnol wedi’i ganiatáu yn gyntaf.
Beth sy’n rhaid i ni ei wneud?
Bydd y rheolydd yn rhoi ystyriaeth i warchod yr amgylchedd yn gyffredinol trwy, yn arbennig, atal neu, os nad yw hynny’n ymarferol, gostwng allyriadau i aer, dŵr a thir.
Gall y rheolydd hysbysu’r cyhoedd o’r cais a rhaid iddo roi ystyriaeth i unrhyw sylwadau
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Rhaid i’r rheolydd fod yn fodlon y byddant yn gweithredu’r cyfleuster yn unol â'r drwydded amgylcheddol. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel petai’ch cais wedi’i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.
Rhaid i’r awdurdod, er lles y cyhoedd, brosesu’ch cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, llenwch ein ffurflen ar-lein i gysylltwch â ni.
Gwybodaeth Ddefnyddiol:
- Cymdeithasau Masnach - Ffederasiwn Cymdeithasau Masnach Amgylcheddol (FETA)
- Cymdeithasau Masnach Amgylcheddol (FETA)
- Comisiwn Diwydiannau Amgylcheddol
- Cymdeithasau Gwasanaethau Amgylcheddol
Dulliau unioni:
Os caiff cais am drwydded amgylcheddol ei wrthod, gall yr ymgeisydd apelio i’r awdurdod priodol. Yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r awdurdod priodol yn Lloegr a Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol yng Nghymru. Rhaid cyflwyno apeliadau cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad y penderfyniad.
Os caiff cais i amrywio, trosglwyddo neu ildio trwydded amgylcheddol ei wrthod neu os yw’r ymgeisydd yn gwrthwynebu amodau’r drwydded amgylcheddol, gall apelio i’r awdurdod priodol.
Rhaid cyflwyno apeliadau sy’n ymwneud ag amrywiad a gyflwynwyd gan y rheolydd, hysbysiad gwahardd neu hysbysiad gorfodi cyn pen dau fis ar ôl dyddiad yr amrywiad neu’r hysbysiad ac mewn unrhyw achos arall cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad y penderfyniad.
Manylion Cyswllt
Gwasanaethau Rheoleiddio
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Ar-lein
Rhif Ffôn: 01492 575187
Ffacs: 01492 575204