Bydd angen trwydded arnoch gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy os ydych yn gwerthu neu’n storio ffrwydron, gan gynnwys tân gwyllt yn sir Conwy.
Rhaid storio tân gwyllt a ffrwydron yn saff a diogel. Bydd angen trwydded arnoch gennym os ydych yn storio neu’n gwerthu tân gwyllt i ddangos eich bod yn unigolyn priodol i wneud hynny, a bydd archwiliadau’n cael eu cynnal o bryd i’w gilydd i sicrhau fod eich eiddo yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol.
Bydd y math o drwydded sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar ba bryd rydych yn bwriadu gwerthu neu storio tân gwyllt. Bydd trwyddedau safonol yn ofynnol os ydych chi’n gwerthu neu’n storio tân gwyllt neu ffrwydron yn ystod y tymhorau tân gwyllt arferol; fodd bynnag gallwch chi hefyd geisio am drwydded gydol y flwyddyn os ydych yn bwriadu masnachu tu allan i’r adegau hyn.
Efallai y byddwn yn gwrthod cais os ydym yn ystyried fod y safle storio’n anaddas ar sail diogelwch, neu os oes tystiolaeth i awgrymu nad yw’r ymgeisydd yn unigolyn priodol i storio tân gwyllt neu ffrwydron.
Ffrwydron sydd wedi eu cynnwys dan y drwydded
- bwledi a chetris a phowdrau saethwyr
- ffrwydron tanio
- tân gwyllt (pyrotechneg)
- powdr gwn
- ffagl forol
Amodau
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn deall, ac yn cydymffurfio gyda, y gofynion cyfreithiol ar gyfer storio tân gwyllt. Caiff rhain eu hamlinellu yn Rheoliadau Ffrwydron 2014.
Nid oes angen trwydded arnoch i storio hyd at 5 cilogram o dân gwyllt neu ffrwydron.
Os ydych eisiau storio mwy na 2 dunnell (2000kg) o ffrwydron mewn un lleoliad yna bydd angen i chi wneud cais i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am drwydded.
Cymeradwyaeth
Efallai y bydd angen i ni gynnal ymweliad safle. Mae hyn fel rheol os ydych chi eisiau storio mwy na 250 cilogram o dân gwyllt neu ffrwydron.
Gwerthu tân gwyllt
Mae ond yn bosibl gwerthu tân gwyllt ar rai adegau o’r flwyddyn:
- rhwng 15 Hydref tan 10 Tachwedd
- rhwng 26 Rhagfyr a 31 Rhagfyr
- diwrnod cyntaf y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a 3 diwrnod cyn hynny
- diwrnod cyntaf Diwali a 3 diwrnod cyn hynny
Os ydych chi’n dymuno gwerthu tân gwyllt tu allan i’r dyddiadau hyn, bydd angen trwydded gydol y flwyddyn arnoch chi - mae hynny’n ychwanegol i’r drwydded storio.
Bydd trwydded gydol y flwyddyn yn eich caniatáu i werthu tân gwyllt gydol y flwyddyn, tu allan i’r dyddiadau a nodir.
Ffioedd
Trwydded Ddechreuol i Storio Ffrwydron
Pennawd | 1 Flwyddyn | 2 Flynedd | 3 Flynedd | 4 Flynedd | 5 Flynedd |
Dim Angen Pellter Gwahanu |
111 |
144 |
177 |
211 |
243 |
Angen Pellter Gwahanu |
189 |
248 |
311 |
382 |
432 |
*Amrywio Trwydded |
37 |
|
|
|
|
*Trosglwyddo / Disodli |
37 |
|
|
|
|
Adnewyddu Trwydded i Storio Ffrwydron
Pennawd | 1 Flwyddyn | 2 Flynedd | 3 Flynedd | 4 Flynedd | 5 Flynedd |
Dim Angen Pellter Gwahanu |
55 |
88 |
123 |
155 |
189 |
Angen Pellter Gwahanu |
88 |
150 |
211 |
272 |
333 |
*Amrywio Trwydded |
37 |
|
|
|
|
*Trosglwyddo / Disodli |
37 |
|
|
|
|
*Rheoliad 16 (a) Newid Enw Deiliad Trwydded neu gyfeiriad y safle £37 / *Regulation 16 (a) Varying a Licensee name or address of site £37
*Rheoliad 16 (b) unrhyw fath arall o newid – y gost resymol i’r awdurdod trwyddedu o wneud y gwaith / *Regulation 16 (b) any other kind of variation – the reasonable cost to the licencing authority of having the work carried out
*Rheoliad 17 Trosglwyddo neu Ddisodli trwydded £37 / *Regulation 17 Transfer or Replacement of licence £37
Nodiadau Cyffredinol / General Notes
Prosesu ac Amserlenni
Rhaid i ni ddelio â'ch cais o fewn 28 diwrnod. Efallai bydd angen i ni gynnal ymweliad safle. Mae hyn fel rheol os ydych chi eisiau storio mwy na 250 cilogram o dân gwyllt neu ffrwydron.
Cysylltu â ni
Os oes angen help arnoch chi gyda thrwyddedau tân gwyllt a ffrwydron, cysylltwch â ni:
- Dros y ffôn: 01492 574110
Gallwch hefyd wneud eich cais; Drwy apwyntiad: o 10.00am - 12.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Coed Pella
Conway Road
Bae Colwyn
LL29 7AZ
Drwy'r post:
Safonau Masnach
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN
Trwyddedau eraill ar gyfer ffrwydron
Rhaid sicrhau trwyddedau ar gyfer cynhyrchu ffrwydron gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.
Cais am Drwydded Storioam