Ers 23 Tachwedd 2015, mae'n ofynnol i bob landlord sy’n gweithredu yng Nghymru gofrestru er mwyn cydymffurfio gyda'r gyfraith.
I gofrestru, rhaid i landlordiaid ddarparu gwybodaeth gywir a chyfoes amdanynt eu hunain a’r eiddo.
Daw'r gofyniad hwn o Ran gyntaf Deddf Tai (Cymru) 2014.
Sut mae cofrestru fel landlord?
Gallwch gofrestru fel landlord drwy’r wefan hon; y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw creu cyfrif a gweithio drwy’r broses ar-lein. Rhaid i landlord gwblhau’r broses gofrestru ei hun; ni all asiant neu berson arall nad yw’n landlord wneud hynny ar ei ran. Gwnewch gais nawr.