Mae £53 miliwn o arian Ewropeaidd wedi ei dderbyn i gefnogi prosiectau yng Nghonwy ers 2000. Mae rhai o'r esiamplau hyn yn cynnwys:
Mae Canolfan Ddigwyddiadau Parc Eirias sydd werth £6.5 miliwn ym Mae Colwyn yn lleoliad digwyddiadau chwaraeon, celfyddydol a chymunedol o’r radd flaenaf. Ers agor yn hwyr yn 2011, mae’r Ganolfan wedi cynnal y fflam Olympaidd a Pharalympaidd, cyngherddau awyr agored Pixie Lott, Olly Murs, Jessie J, Syr Tom Jones a Syr Elton John, yn ogystal â gemau Rygbi Rhyngwladol gan y timau o dan 20 a hŷn
Cyfanswm Cost y Prosiect: £6.5m
Grant Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop o Raglen Gydgyfeirio 2007 - 2013: £1.5m
Adfywio Tref Arfordirol
Mae’r prosiect hwn yn cynnwys dwy elfen – Adfywio Canol Tref Bae Colwyn a’r cam cyntaf o welliannau amgylchedd Glan y Môr Bae Colwyn sy’n cynnwys creu traeth parhaol ac elfen o waith amddiffyniad arfordirol, wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal mae Porth Eirias yn cynnig cyrsiau bordhwylio, hwylio, bwrdd padlo a chwch pŵer yn Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn; cyfleusterau newid newydd, a man modern ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd. Yn ystod yr haf yn 2015 daeth y ganolfan yn gartref i Fwyty glan môr wedi’i ddylunio a’i ddatblygu gan un o’r cogyddion gorau yng Nghymru, Bryn Williams.
Cyfanswm Cost y Prosiect: £11.3m
Grant Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop o Raglen Gydgyfeirio 2007 - 2013: £5.9m
Gwelliannau Gorsaf Llandudno
Mae Gorsaf Reilffordd Llandudno wedi cael gweddnewidiad gwerth £5.2 miliwn, diolch i arian gan Raglen Gwella Gorsafoedd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, drwy Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r orsaf, sydd yn 135 oed, bellach ag adnoddau gwell ar gyfer teithwyr ac mae'n adnodd gwerthfawr yn y dref.
Cyfanswm Cost y Prosiect: £5.2m
Grant Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop o Raglen Gydgyfeirio 2007 2013: £2m
Wedi’i hagor ym 1902, hon bellach yw’r unig dramffordd a dynnir gan gebl sy’n gweithredu yn y DU. Diolch i nawdd o’r Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, cafodd y Tram a’i thraciau eu hadnewyddu, cafodd cyfleusterau i bobl anabl eu gwella ac adeiladwyd gorsaf hanner ffordd newydd. Rhagwelir bod y Tram yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae’n rhan allweddol o gynnal twristiaeth yn Llandudno.
Cyfanswm Cost y Prosiect: £4.1m
Grant Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop o Raglen Amcan 1 2000-2006: £0.9m
Prosiect Taith i Waith
Prosiect sydd wedi cefnogi 864 o bobl sy’n agored i niwed ac sydd dan anfantais i gael hyfforddiant, addysg, ac/neu waith drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd am amrywiaeth eang o faterion. Bu i’r unigolion a gefnogwyd gynyddu eu sgiliau, symud yn agosach at gael gwaith a chyrraedd eu potensial drwy amrywiaeth eang o weithgareddau oedd yn cael gwared â'r rhwystrau ymgysylltu.
Cyfanswm Cost y Prosiect: £4.4m
Grant Cronfa Gymdeithasol Ewrop o Raglen Gydgyfeirio 2007-2013: £2.2m
Rhaglen Llwyddo’n Lleol
Cynllun arloesol i bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed sy’n byw yng Ngogledd Cymru i ddatblygu eu llwybrau gyrfaol a llwyddo o fewn eu cymunedau drwy ddatblygu eu sgiliau menter ac entrepreneuraidd. Bwriad y prosiect oedd cryfhau’r neges y gall cymunedau lleol gynnig dyfodol i bobl ifanc o safbwynt gwaith a hunangyflogaeth, gan ganolbwyntio ar sectorau twf. Yng Nghonwy, cymerodd 1,095 o gyfranogwyr ran mewn digwyddiadau ar gyfer sectorau penodol ac enillodd 434 o bobl ifanc gymwysterau.
Cyfanswm Cost y Prosiect: £1.7m
Grant Cronfa Gymdeithasol Ewrop o Raglen Gydgyfeirio 2007-2013: £0.3m
Llwybr Strategol Aber Afon Conwy
Mae cerddwyr a beicwyr yn elwa o lwybr hamdden sydd wedi ei greu o gwmpas aber hardd Conwy Natura 2000. Mae’r llwybr yn rhedeg o Ben Morfa yn Llandudno i Gei Conwy, ac mae’n llwybr arfordirol sy’n gwella safon cerdded a beicio o amgylch yr aber, tra’n cynnal yr harddwch naturiol eithriadol a’r amgylchedd hanesyddol. Roedd y cynllun yn ymwneud â rheoli amgylchedd, gan gynnwys cynefinoedd anifeiliaid ac adar yn y twyni. Bydd y llwybr yn gwella adnoddau i ymwelwyr, ond hefyd yn darparu llwybr diogel a chynaliadwy ar gyfer pobl leol.
Cyfanswm Cost y Prosiect: £7.2m
Grant Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop o Raglen Amcan 1 2000-2006: £2.7m