DIWEDDARAF: Mae’r alwad gyntaf am brosiectau UKSPF yng Ngogledd Cymru bellach wedi cau.
Derbyniwyd 299 o geisiadau, gwerth dros £250m.
Trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.
Nod cyffredinol y Gronfa yw: Meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd
Nod yr UKSPF yw cyflawni hyn drwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:
- Cymuned a Lle
- Cefnogi Busnes Lleol
- Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhifedd oedolion)
Mae Prosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r Gronfa a gellir ei weld yn: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Mae’r holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r Gronfa a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gael oddi wrth: https://www.gov.uk/government/collections/new-levelling-up-and-community-investments
content
Bydd pob rhan o'r DU yn cael rhywfaint o'r cyllid, sy'n cael ei ddyrannu i ardaloedd unigol yn seiliedig ar fformiwla. Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am gyflwyno'r Gronfa.
Yng Nghymru, rhaid i ardaloedd lleol weithio gydag eraill o fewn eu rhanbarth i ddarparu'r Gronfa. Mae Rhanbarth Gogledd Cymru yn cynnwys siroedd Wrecsam, Fflint, Dinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae cyfanswm o £126.46 miliwn (mae £4.44 miliwn o'r cyfanswm yn amodol ar gadarnhad) wedi'i ddyrannu o'r UKSPF i Ogledd Cymru. Mae'r cyfanswm yn cynnwys £21.84 i miliwn y mae'n rhaid ei ddefnyddio i gefnogi rhifedd oedolion (y rhaglen Lluosi).
Mae'r dyraniad ar gyfer pob ardal Awdurdod Lleol unigol fel a ganlyn:
- Ynys Môn: £16,081,937
- Gwynedd: £24,423,747
- Conwy: £24,520,120
- Sir Ddinbych: £25,647,958
- Fflint: £13,102,933
- Wrecsam: £22,684,205
Mae'r cyllid yn cynnwys arian cyfalaf a refeniw ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2025.
Ar 5 Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yr arian yn dod i Ogledd Cymru, ond dim ond am un flwyddyn ariannol ar y tro y bydd yr arian yn cael ei gadarnhau gan Lywodraeth y DU.
content
Dyrannwyd cyfanswm o £24.5 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’w fuddsoddi a’i wario erbyn mis Mawrth 2025.
Rydym yn chwilio am brosiectau sy’n mynd i’r afael ag anghenion lleol a strategaethau lleol allweddol ar gyfer Conwy:
content
Er mwyn lleihau costau a chymhlethdod, bydd Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i weinyddu'r UKSPF. Fodd bynnag, bydd pob penderfyniad ar ble mae'r arian yn mynd yn cael ei wneud yn lleol ym mhob ardal.
Bydd y rhan fwyaf o'r arian yn cael ei ddosbarthu drwy grantiau i gefnogi sefydliadau i gyflawni prosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau lleol.
Daeth yr alwad gyntaf am brosiectau UKSPF yng ngogledd Cymru ar gau ddydd Gwener 24 Chwefror 2023.
Mae'n bosib y bydd cyfleoedd yn y dyfodol i gyflwyno ceisiadau yn cael euhagor - ym mhob un neu rai ardaloedd Awdurdod Lleol ac ar gyfer pob un neu rai meysydd gweithgaredd - os bydd arian yn parhau i fod ar gael.
Awdurdodau Lleol fydd yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gyda chyngor partneriaeth o randdeiliaid lleol.
Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am brosiectau sy'n cyflawni mewn un ardal Awdurdod Lleol neu fwy. Bydd pob ardal yn penderfynu a ydynt am gefnogi cais neu ddim.
content
Amlinellir yr amcanion ar gyfer tair blaenoriaeth buddsoddi'r UKSPF – cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau – ym Mhrosbectws yr UKSPF:
https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy
Ar gyfer Cymru, caniateir 53 o ymyriadau UKSPF sy'n cwmpasu'r tair blaenoriaeth fuddsoddi a'r rhaglen Lluosi:
Rhestr Ymyriadau ar gyfer Cymru:
https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-interventions-outputs-and-indicators/rhestr-o-ymyriadau-ar-gyfer-cymru
Rhaid i unrhyw brosiect a ariennir gan yr UKSPF fynd i'r afael ag un, neu fwy, o'r ymyriadau hyn
Rhaid i bob prosiect hefyd gyflawni un neu fwy o'r allbynnau a'r canlyniadau sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU:
Er mwyn darparu cymaint o hyblygrwydd â phosibl, bydd Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru yn caniatáu i ymgeiswyr ddewis unrhyw un o'r allbynnau a'r canlyniadau a restrir sy'n berthnasol i'r flaenoriaeth / blaenoriaethau buddsoddi y mae eu prosiect yn mynd i'r afael â hwy.
Yn ogystal â dangos aliniad â'r UKSPF ei hun, rhaid i brosiectau sy'n ceisio cymorth yng Ngogledd Cymru:
- dangos sut y maent yn ychwanegu gwerth at, ac wedi eu hintegreiddio â, gweithgaredd cyfredol ac arfaethedig yn y maes perthnasol, gan osgoi dyblygu;
- fod wedi ymgysylltu â, a derbyn cefnogaeth gan, rhanddeiliaid perthnasol yn y maes gweithgaredd a'r ardaloedd y byddant yn gweithredu ynddynt;
- helpu i wireddu - neu fod yn gydnaws â - polisïau a strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol; a,
- deall a mynd i'r afael ag anghenion yr ardaloedd lleol y maent yn bwriadu gweithredu ynddynt a helpu i wireddu'r blaenoriaethau / strategaethau lleol perthnasol.
Gall strategaethau a chynlluniau rhanbarthol perthnasol gynnwys (nid rhestr gyflawn):
Mae gwybodaeth am y strategaethau a'r blaenoriaethau lleol ar gael ar wefan pob Awdurdod Lleol:
content
- Mae'r amserlen ar gyfer cyflawni'r UKSPF yn fyr; yn ymarferol, bydd angen bob prosiect ddod i ben a chyflwyno'u hawliadau terfynol erbyn 31 Rhagfyr 2024 , er mwyn caniatáu amser ar gyfer cau'r rhaglen.
- O ystyried y cyfnod byr sydd ar gael ar gyfer cyflawni, bydd Awdurdodau Lleol yn ceisio cefnogi nifer cymharol fach o brosiectau strategol a mwy eu maint. Rhaid i bob prosiect a gyflwynir ceisio o leiaf £250,000 o arian UKSPF; mae'r Awdurdodau Lleol yn rhagweld, ar gyfartaledd, y bydd prosiectau a gefnogir yn ceisio £1 miliwn neu fwy o arian UKSPF.
- I alluogi busnesau, sefydliadau a chymunedau lleol sy'n ceisio symiau llai o gymorth cael mynediad at arian UKSPF; bydd y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yn ceisio sefydlu cronfeydd cyfryngol yn lleol, gan ddarparu trefn ymgeisio, cymeradwyo a monitro symlach. Bydd gwybodaeth am y cronfeydd hyn yn ymddangos ar wefannau Awdurdodau Lleol unigol pan fydd ar gael.
- Fel y nodwyd yn flaenorol, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dyraniadau UKSPF ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2025, dim ond yn flynyddol y caiff y cyllid ei gadarnhau. Bydd y cytundebau ariannu a ddarperir gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru i ymgeiswyr llwyddiannus yn adlewyrchu hyn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy'n ymrwymo i wariant y tu hwnt i'r cyfnod y caiff cyllid ei gadarnhau ar ei gyfer yn gwneud hynny ar ei risg eu hunain.
- Dechreuodd y cyfnod cymwys ar gyfer gwariant o dan yr UKSPF ar 1 Ebrill 2022. Gall ymgeiswyr felly gynnwys elfen o wariant ôl-weithredol yn eu ceisiadau. Nodwch y bydd unrhyw wariant a wneir gan ymgeiswyr cyn arwyddo cytundeb cyllid grant yn gyfan gwbl ar risg eu hunain.
- Mae'r UKSPF yn cynnwys cyllid cyfalaf a refeniw. Gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig, prosiectau refeniw yn unig neu brosiectau sy'n ceisio cyfuniad o'r ddau.
- Bydd gweithredu yn unol â threfn rheoli cymhorthdal newydd y DU a ddechreuodd ar 4 Ionawr 2023, yn allweddol ar gyfer unrhyw brosiect. Dylai pob ymgeisydd ymgyfarwyddo â gofynion y drefn: https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime
- O ystyried yr amgylchiadau cyfyngedig ar gyfer cyflawni'r UKSPF, bydd hyder yn y gallu cynigion a gyflwynir i gyflawni yn ystyriaeth allweddol i Awdurdodau Lleol ochr yn ochr â chapasiti a gallu'r sefydliad sy'n ymgeisio.
content
Gan adlewyrchu'r pwyslais gan Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru ar benderfyniadau lleol bydd pob ardal leol yn penderfynu sut y dymunant ddewis prosiectau ar gyfer cefnogaeth UKSPF.
Fodd bynnag, bydd ystyriaethau cyffredin yn cynnwys:
- alinio cynigion â buddsoddiadau ac ymyriadau â blaenoriaeth yr UKSPF;
- allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig cynigion;
- ychwaneged ac aliniad prosiectau arfaethedig gyda gweithgaredd presennol a gweithgaredd arfaethedig;
- y gallu i gyflawni a chapasiti / gallu'r ymgeisydd (gan gynnwys ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol a rheoliadol); a,
- aliniad cynigion gydag anghenion cenedlaethol, rhanbarthol ac, yn fwyaf arbennig, lleol.
Bydd ardaloedd lleol yn ystyried y cymysgedd cyffredinol o weithgareddau a gynigir yn ogystal â chynigion unigol, i sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion eu hardaloedd ac amcanion blaenoriaethau buddsoddi'r UKSPF.
Fel y nodwyd, bydd Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn arian gan ystyried cyngor partneriaeth o randdeiliaid lleol. Bydd barn rhanddeiliaid allweddol o fewn y maes gweithgaredd mae'r prosiect am weithio ynddo hefyd yn cael ei geisio a'i ystyried.
Projectau wedi Cymeradwyo
Mae’r prosiectau’n cael eu hariannu neu eu hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y prosiectau a ariennir dan bob un o flaenoriaethau Buddsoddi UKSPF yma: Crynodebau Prosiect UKSPF (conwy.gov.uk)
Hysbysiad Preifatrwydd
Wrth gyflwyno cais, byddwch yn awdurdodi’r Cyngor(au) i wneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol i wirio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu'r rhaglen UKSPF. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a roddwch hefyd yn cael ei rhannu ag eraill fel y nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd canlynol:
https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Cyngor/Gwybodaeth/Datganiadau-Preifatrwydd-Gwasanaethau/Cronfa-Ffyniant-Gyffredin-y-DU-Datganiad-Preifatrwydd.aspx
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Diweddariadau Blaenorol
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: sharedprosperityfund@conwy.gov.uk
I gael gwybod mwy am y Gronfa Rhannu Ffyniant yng Ngogledd Cymru ewch i: http://www.ffyniantgyffredingogledd.cymru/