Mae Rhaglen Cydweithio Tiriogaethol Ewrop (ETC) 2014-2020 yn rhoi cyfleoedd i ranbarthau yn yr UE i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyffredin. Mae Cymru’n ymwneud â phedair rhaglen:
Mae Cydweithrediad Tiriogaethol Ewrop (ETC) yn fwy adnabyddus fel Interreg. Interreg V yw cyfnod Rhaglennu 2014-2020.
Dyma grynodeb o raglenni Interreg V:
- INTERREG VB - Gogledd Orllewin Ewrop – ymdrin â materion tiriogaethol ar draws yr ardal.
- INTERREG VB - Ardal yr Iwerydd - cydweithredu trawswladol wrth ddatblygu Ardal yr Iwerydd a’i threftadaeth forol.
- INTERREG VC - Interreg Ewrop - annog cyfnewid a throsglwyddo profiadau gwledydd mewn polisi rhanbarthol a gwella effeithiolrwydd polisïau ac offerynnau rhanbarthol ar y cyd.