Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Gwasanaethau Cludiant
Gwiriadau Trwyddedau Gyrru
Diweddarwyd Diwethaf: 21 Mai 2018
Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn gymwys i Wasanaethau Cludiant - Gwiriadau Trwyddedau Gyrru.
Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth sy’n caniatáu’r awdurdod i sicrhau bod pob gyrrwr â thrwydded yrru ddilys i sicrhau cydymffurfiaeth â darpariaeth gwasanaeth.
Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol
Mae’r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol fel dyletswydd o ofal, i wirio bod gan bob gyrrwr drwydded yrru ddilys gyda hawliadau gyrru cywir, dim ardystiadau gyrru neu waharddiadau, ac yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018
Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.
Gwybodaeth a gesglir
- Enw
- Manylion Cyswllt
- Dyddiad geni
- Rhif gyrrwr (o’r Drwydded Yrru)
- Rhyw
- Ffurflen Datganiad Iechyd
Mae prosesu’n hanfodol ar gyfer perfformio contract gyda gwrthrych y data ac mae’n hanfodol i ddiogelu diddordebau hanfodol gwrthrych y data neu unigolyn arall. Hefyd, er budd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
- DVLA - Mae’r DVLA yn rhoi gwybodaeth angenrheidiol am drwydded yrru’r unigolyn
- Gwiriad Uwch – Cyfleuster gwirio trwydded trydydd parti i sicrhau bod trwyddedau gyrru yn ddilys.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Caiff gwybodaeth ei thynnu oddi ar y gronfa ddata’n syth, unwaith y bydd y gyrrwr yn gadael yr awdurdod. Mae ffurflenni mandad yn cael eu dinistrio ar ôl 3 blynedd.
Eich hawliau gwybodaeth
Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.
Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod: