Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Gwasanaethau Cludiant
Cofnodion disgyblion cludiant o’r cartref i’r ysgol:
Diweddarwyd Diwethaf: 10 Hydref 2019
Mae’r hysbysiad preifatrwydd canlynol yn ymwneud â Gwasanaethau Cludiant – Cofnodion disgyblion cludiant o’r cartref i’r ysgol.
Mae hyn yn cynnwys manylion disgyblion i ddarparu cludiant i’r ysgol ac oddi yno yn ystod amser tymor
Pwrpas ar gyfer prosesu a sail gyfreithiol
Mae’r gwasanaeth yn prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu cludiant o’r cartref i’r ysgol yn unol â Rheoliadau Diogelu Data 2018.
Atal/Canfod Trosedd/Twyll. Mae Deddf Troseddau Difrifol 2007 yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth at ddibenion atal twyll, fel aelod o sefydliad gwrth-dwyll a nodwyd neu fel arall yn unol ag unrhyw drefniadau a wnaed gyda sefydliad o’r fath.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Cyngor warchod y cyllid cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac felly gall ddefnyddio unrhyw wybodaeth rydych wedi ei rhoi i atal, canfod ac ymchwilio i dwyll ac anghysonderau, ar gyfer perfformio contract, neu, dasg a gyflawnir er lles y cyhoedd, neu i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol. Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yw’r sail Gyfreithiol.
Gwybodaeth a gesglir
- Enw
- Manylion cyswllt
- Dyddiad geni
- Cofnodion meddygol (anableddau)
Mae prosesu’n hanfodol ar gyfer perfformio contract gyda gwrthrych y data ac mae’n hanfodol i ddiogelu diddordebau hanfodol.
Gyda phwy fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth
- Cymhorthwyr Teithwyr (os yw’n gymwys) mae gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda chymhorthwyr teithwyr i sicrhau diogelwch y disgyblion.
- Ysgol – Mae gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r ysgol er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o drefniadau cludiant disgyblion i'r ysgol ac oddi yna.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
Darpariaeth gwasanaeth a 1 flwyddyn
Eich hawliau gwybodaeth
Gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yn www.conwy.gov.uk/hysbysiadaupreifatrwydd i gael manylion cyswllt ac os oes gennych gŵyn am eich hawliau gwybodaeth.
Mae eich hawliau gwybodaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u nodi isod:
Mynediad i’ch gwybodaeth – gwnewch gais ar-lein www.conwy.gov.uk/diogeludata neu cysylltwch â ni yn affch@conwy.gov.uk