Dyma'r unig arolwg sy'n rhoi llun manwl o'r boblogaeth gyfan ac mae'n unigryw oherwydd mae'n holi pawb ar yr un pryd ac yn gofyn yr un cwestiynau craidd gan ei gwneud yn hawdd cymharu gwahanol grwpiau o bobl yn ogystal â gwahanol rannau o'r wlad. Mae'n rhoi gwybodaeth fanwl ynglŷn â'r boblogaeth yn gyffredinol, ac ynglŷn ag ardaloedd daearyddol bychain a phoblogaethau bychain.
Yn ogystal â darparu dadansoddiad o ddata'r Cyfrifiad, roedd y tîm Ymchwil a Gwybodaeth Corfforaethol yn gweithio'n agos i gydlynu gwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a wnaeth yr arolwg a gynhelir bob deng mlynedd. Fe wnaethom ni helpu i sicrhau ein bod wedi cyfrif pob preswylydd ym Mwrdeistref Sirol Conwy, ble bynnag roeddent yn byw.
Hanes y Cyfrifiad
Cynhaliwyd cyfrifiad poblogaeth ym Mhrydain bob deng mlynedd ers 1801, ac eithrio yn 1941 pan roedd y rhyfel. Pasiodd y Senedd Ddeddf y Cyfrifiad yn 1800 ar gyfer cyfrifiad swyddogol cyntaf Cymru a Lloegr yn dilyn awgrymiadau y byddai twf poblogaeth, yn fuan, yn ormod ar gyfer cyflenwadau bwyd ac adnoddau eraill. Mae egwyddorion sylfaenol y cyfrifiad yr un fath hyd heddiw.
Ac eithrio'r manteision ar gyfer y presennol a'r dyfodol, mae gan y cyfrifiad y gallu i ddatgloi'r gorffennol. Pan fydd cofnodion y cyfrifiad yn cael eu cyhoeddi, 100 mlynedd ar ôl eu casglu, byddant yn agor y drws i filoedd o bobl ddarganfod gwybodaeth am fywydau, carwriaethau a ffordd o fyw eu cyndeidiau.