Mae'r tudalennau a ganlyn yn cynnwys gwybodaeth o Gyfrifiad 2011 am Fwrdeistref Sirol Conwy.
Mae'r tudalennau proffiliau ardal yn crynhoi'r prif ganlyniadau o'r Cyfrifiad – ar gyfer wardiau (rhanbarthau etholiadol), ardaloedd cynghorau cymuned ac ardaloedd cymharol.
Mae ffeiliau Microsoft Excel yn cynnwys gwybodaeth fanylach am wardiau, ardaloedd cynghorau cymuned a thref, Bwrdeistref Sirol Conwy, Cymru a Chymru a Lloegr wedi'u hatodi i'r tudalennau eraill fel a ganlyn:-
- Pobl - y boblogaeth breswyl arferol; strwythur oedran; grŵp ethnig; hunaniaeth genedlaethol; gwlad enedigol; pasbortau a ddelir; yr iaith Gymraeg; crefydd; iechyd a darpariaeth gofal di-dâl; cyfnod preswylio yn y DU
- Gwaith - gweithgarwch economaidd; diwydiant cyflogaeth; grwpiau galwedigaeth; oriau a weithiwyd; cymwysterau a myfyrwyr; dull teithio i'r gwaith; a dosbarth economaidd-gymdeithasol yr Ystadegau Cenedlaethol
- Aelwydydd a threfniadau byw - cyfansoddiad aelwydydd; trefniadau byw; statws briodasol a phartneriaeth sifil; un rhiant sydd â phlant dibynnol; plant dibynnol a gwaith oedolion; sefydliadau cymunedol; ac iaith yr aelwyd
- Tai a chyfleusterau - lle mewn aelwydydd a mathau llety; deiliadaeth aelwydydd; ystafelloedd a gwres canolog; a pherchenogaeth ceir
Gellir defnyddio'r ystadegau hyn dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Ffynhonnell: Ystadegau Cyfrifiad 2011, Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol © Hawlfraint y Goron 2013
Mae data hefyd ar gael ar wefan Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Gwybodaeth bellach
Ffôn: 01492 575291
E-bost: uned.ymchwil@conwy.gov.uk
Gweler hefyd