Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyfrif ei phoblogaeth bob 10 mlynedd. Mae'r cyfrifiad hwn yn nodi prif nodweddion y boblogaeth (oed, rhyw, diwylliant, iechyd, ac yn y blaen), aelwydydd, patrymau gweithio a rhywfaint o wybodaeth am dai.
Mae crynodeb o ddata Cyfrifiad 2011 ar gael ar y tudalennau hyn ar gyfer Conwy ac etholaethau ac ardaloedd cynghorau cymuned yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae data Cyfrifiad 2001 hefyd ar gael, ac mae gennym broffiliau ardaloedd Cyfrifiad 1991.
Ceir hefyd rhywfaint o wybodaeth am ddata Cyfrifiadau'r gorffennol yn yr adran Cyfrifiadau blynyddoedd eraill.
Nid yw'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion ffurflenni cyfrifiad unigol, gan fod y rhain yn gyfrinachol am 100 mlynedd. Y cyfrifiad diweddaraf ar gyfer gallu gweld y ffurflenni yw Cyfrifiad 1911. Mae'r Adran Cyfrifiadau blynyddoedd eraill yn rhoi'r manylion sut gallwch weld y rhain.
Mae data hefyd ar gael ar wefan Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Gwybodaeth bellach
Ffôn: 01492 575291
E-bost: uned.ymchwil@conwy.gov.uk
Gweler hefyd