Ond mae'r newidiadau i ffiniau etholaethau a'r Sir yn golygu nad yw'r Cyfrifiadau cyn 1991 yn cyfeirio at yr un ardaloedd â heddiw.
Oherwydd hyn - a newidiadau yn null casglu'r wybodaeth - nid oes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyfresi cyflawn o ddata o Gyfrifiad 1981 a chyn hynny.
Os ydych am gael gweld gwybodaeth am 1981 neu'n gynharach, y lle gorau i ddod o hyd iddi yw'ch llyfrgell leol. Gallwch hefyd gesio cysylltu â Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, sy'n cynnal y cyfrifiad. Gallwch ddod o hyd i'w manylion yma: Gwasanaethau a chyngor am y cyfrifiad.
Mae ffurflenni Cyfrifiad unigol yn gyfrinachol am 100 mlynedd, felly, Cyfrifiad 1911 yw'r un diweddaraf lle mae gwybodaeth am unigolion ar gael. Gweler Archifau Cenedlaethol – cofnodion o’r cyfrifiad am fanylion.
Gwybodaeth bellach
Ffôn: 01492 575291
E-bost: uned.ymchwil@conwy.gov.uk