Pwrpas
Ym mis Ebrill 2016, sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fwrdd statudol, a elwir yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae Conwy a Sir Ddinbych wedi defnyddio grym o fewn y Ddeddf i uno eu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn un BGC ar gyfer rhanbarth Conwy a Sir Ddinbych.
Mae'r BGC yn gasgliad o gyrff cyhoeddus sy’n cydweithio i wella lles eu sir. Mae hyn yn golygu fel grŵp bod yn rhaid i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ardal Conwy a Sir Ddinbych drwy weithio i gyflawni’r 7 nod Lles isod:
- Cymru lewyrchus
- Cymru wydn
- Cymru iachach
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynol
- Cymru gyda diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus
- Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang
Mae gan y BGC bedair prif dasg i ddechrau:
- Paratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Conwy a Sir Ddinbych.
- Paratoi a chyhoeddi Cynllun Lles Lleol ar gyfer siroedd Conwy a Dinbych gan gynnwys amcanion lleol a'r camau mae'n bwriadu eu cymryd i'w diwallu.
- Cymryd pob cam rhesymol i ddiwallu’r amcanion lleol.
- Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n nodi cynnydd y Bwrdd o ran diwallu’r amcanion lleol.
Egwyddorion
Datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor gweithgareddau BGC Conwy a Sir Ddinbych. Mae hyn yn golygu gweithredu mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau fod anghenion presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Aelodau
Ein haelodau statudol ar y bwrdd yw:
Ein partneriaid eraill yw:
Cysylltu
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar http://conwyanddenbighshirelsb.org.uk/