Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Cronfa'r Degwm

Cronfa'r Degwm


Summary (optional)
start content

Manylion Cronfa’r Degwm

Sefydlwyd Cronfa’r Degwm o elw ac asedau datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru. Dosbarthwyd yr asedau hyn yn gyfartal rhwng cyn Gynghorau Sir Cymru, ac yna eu rhannu rhwng Awdurdodau Unedol Cymru pan gawsant eu ffurfio ym 1996.

Rydym ni’n gweithredu fel gweinyddwyr y gronfa, a chaiff aelodau gweithgor y gronfa eu dewis o blith aelodau etholedig y Cyngor.

Lefelau’r cyllid

Mae’r grantiau fel arfer yn amrywio rhwng £50 a £1000.

Pwy sy’n gymwys i wneud cais?

Gwahoddir ceisiadau am gymorth ariannol o’r gronfa gan sefydliadau, cymdeithasau a chlybiau ar gyfer amrywiol gynlluniau sy’n gweithredu o fewn Bwrdeistref Sirol Conwy.

Dyma’r dibenion elusennol y gellir defnyddio’r gronfa ar eu cyfer:

  • Adnoddau addysgol ar gyfer addysg uwch, os nad oes cyllid ar gael yn hawdd o ffynonellau eraill;
  • Hyrwyddo gwybodaeth a gwerthfawrogiad o gelfyddydau a llenyddiaeth Cymru;
  • Lleddfu tlodi;
  • Hyrwyddo crefydd;
  • Lleddfu mewn salwch;
  • Pobl hŷn;
  • Cymdeithasol a hamdden;
  • Materion esthetig, pensaernïol, hanesyddol a gwyddonol;
  • Ymchwil meddygol a chymdeithasol, triniaeth ac ati;
  • Profiannaeth;
  • Pobl sy’n ddall neu sydd ag amhariad ar eu golwg;
  • Argyfyngau neu drychinebau.


Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd grantiau’n cael eu rhoi i gais penodol os bydd wedi cael cymorth gan adrannau eraill yr Awdurdod, naill ai ar ffurf arian neu nwyddau.

Ni fydd ymgeiswyr sydd eisoes wedi cael cyllid o'r gronfa yn gymwys i wneud cais arall yn yr un flwyddyn ariannol.

Ni fydd ymgeiswyr sy’n ceisio cyllido diffyg fel arfer yn gymwys, nac unigolion sy’n ceisio cyllid ar gyfer ffioedd dysgu, nawdd neu gyfraniadau elusennol.

Ni ellir rhoi grantiau er dibenion pleidiau gwleidyddol.

Sut caiff ceisiadau eu hasesu?

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn yr un meini prawf.

Bydd pob cais yn cael ei asesu gan y gweithgor, a bydd penderfyniad y gweithgor yn derfynol.

Ystyrir ceisiadau ddwywaith y flwyddyn mewn cyfarfod priodol a gynhelir ym mis Mehefin/Gorffennaf ac ym mis Tachwedd/Rhagfyr.

Sut i wneud cais

Bydd rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais ar-lein drwy glicio ar y ddolen isod. Efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol cyn y gellir asesu eich cais.

Mewn rhai achosion, dim ond ar ôl derbyn dogfennau priodol y bydd taliadau grant yn cael eu gwneud; er enghraifft, derbynebau, anfonebau neu brawf addas arall o wariant.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â Mrs Catherine Dowber: crofardegwm@conwy.gov.uk neu 01492 576201.

Cronfa'r Degwm - Ffurflen Ar-lein

Dyddiadau cau

Y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yw wythnos gyntaf mis Mai a mis Hydref bob blwyddyn.

Os bydd digon o arian ar gael, bydd ceisiadau’n cael eu cyflwyno ger bron y panel nesaf sydd wedi’i drefnu.

Byddwn yn ymdrechu i anfon canlyniad eich cais atoch chi o fewn dau fis i’r dyddiad cau.

Hysbysu am gyllid

Os na fu’ch cais yn llwyddiannus, byddwn yn eich hysbysu drwy neges e-bost neu lythyr. Ni allwch chi apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Os bu’ch cais yn llwyddiannus, byddwn yn eich hysbysu drwy lythyr. Byddwn yn talu’r grant drwy drosglwyddiad BACS. Bydd angen i ni gael gweld slip talu i mewn neu gyfriflen banc yn enw’r unigolyn/sefydliad cyn y gallwn ni wneud taliad.

Mae’r Awdurdod yn disgwyl i unigolion/sefydliadau gydnabod unrhyw gymorth ariannol a roddir gan y Cyngor mewn unrhyw ddeunyddiau ysgrifenedig neu hysbysebu a gynhyrchir.

Mae gan y Cyngor bolisi dwyieithrwydd, ac mae rhan ohono’n annog sefydliadau sy’n derbyn cymorth ariannol gan y Cyngor i ddarparu eu gwasanaethau neu eu gweithgareddau yn ddwyieithog, cyn belled ag y bo hynny’n bosib.

Gellir cael cyngor a chanllawiau ar arferion dwyieithog da gan Swyddog Cymraeg y Cyngor drwy ffonio 01492 576130.

end content