Dyma yw gweledigaeth Ailgartrefu Cyflym y Cyngor:
‘Mae gwasanaethau allweddol yn darparu dull cydlynol i weithgarwch atal digartrefedd er mwyn sicrhau bod digartrefedd yn rhywbeth prin yng Nghonwy. Lle nad oes modd atal digartrefedd, gall pobl symud i lety sefydlog yn gyflym a chael mynediad at gymorth priodol, er mwyn sicrhau na chaiff digartrefedd ei ailadrodd. Os oes angen llety dros dro, bydd yn cael ei ddefnyddio am gyfnod byr yn unig.’
I wneud hyn mae angen newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu’r newidiadau sydd eu hangen dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Ailgartrefu Cyflym: canllawiau - Sut y byddwn yn helpu'r rhai sy'n profi digartrefedd i ddod o hyd i dai sefydlog yn gynt. (Cyhoeddwyd 24 Awst 2022)