Os oes gennych bryderon am rywun rydych chi wedi’i weld yn cysgu allan, gallwch roi gwybod am hyn drwy wefan StreetLink, neu lawrlwytho eu hap. Mae StreetLink yn bodoli i helpu rhoi diwedd ar gysgu tu allan drwy alluogi’r cyhoedd i roi pobl sy’n cysgu allan mewn cysylltiad gyda'r gwasanaethau lleol mwyaf addas i’w cefnogi nhw.
Fel arall, gallwch gysylltu â’n Tîm Dewisiadau Tai yn ystod oriau swyddfa ar 0300 456 9545, neu’r gwasanaeth digartrefedd tu allan i oriau swyddfa ar 0300 123 3079.
Efallai na fydd gwasanaethau lleol yn gwybod am rai pobl sy’n cysgu allan gan eu bod yn parhau allan o’r golwg ac efallai’n symud o le i le.
Bydd unrhyw un o'r opsiynau hyn yn rhoi gwybod i wasanaethau am bobl a allai fod angen ein help, fel y gallwn gynnig cyngor, cefnogaeth a chymorth.
Mae’n bwysig eich bod yn ffonio’r Heddlu os ydych yn credu fod y person dan 18 oed.
www.streetlink.org.uk