Mae'n rhaid i ni gynnig llety argyfwng i ymgeiswyr digartref os oes gennym reswm i gredu bod ganddynt flaenoriaeth. Unwaith y bydd pob ymdrech wedi'i wneud i atal eich digartrefedd ac na allwch fyw yn eich cartref presennol mwyach, efallai y bydd eich Swyddog Atal Digartrefedd yn cynnig llety dros dro i chi am gyfnod byr ac yn parhau i’ch helpu i leihau eich digartrefedd. Gallai’r llety hwn fod yn:
- Uned llety â chefnogaeth
- Hostel
- Gwely a brecwast
- Eiddo gosod preifat dros dro
- Llety heb ddodrefn dros dro
- Lloches
Yn ystod eich cyfnod mewn llety dros dro, bydd swyddog yn cadw cysylltiad agos â chi i sicrhau fod y rhent yn cael ei dalu a'ch bod yn cadw at amodau’r ddeiliadaeth. Byddant hefyd yn eich cynorthwyo i symud ymlaen drwy eich cynghori ar gyfleoedd tai pellach. Wrth drefnu llety dros dro byddwn yn ceisio sicrhau bod unrhyw lety dros dro a gynigir yn yr ardal hon, fodd bynnag, ni allwn warantu hyn. Byddwn yn ceisio osgoi defnyddio llety gwely a brecwast lle bo hynny'n bosibl.
- Rhif ffôn: 0300 456 9545
- Cyfeiriad e-bost: datrysiadautai@conwy.gov.uk
- Oriau agor: Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni dydd Llun i dydd Iau - 8:45am i 5:15pm, dydd Gwener - 8:45am i 4:45pm.
- Rhif Cyswllt Mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau: 0300 123 3079