Mwynhewch daith ar hyd yr arfordir at Glan y Môr Elias a Morfa Madryn,
Llanfairfechan.
Cafodd Gwarchodfa Morfa Madryn ei greu fel ardal heb aflonyddu arni fel bod adar yn gallu bwydo, gorffwys a bridio yno. Mae'r daflen hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am warchodfeydd natur arfordirol eraill nad ydynt yn cael eu
rheoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad Conwy.
Sut Fath o Daith yw Hi?
- Math o Dir: Hawdd i'w gerdded, llwybr troed arfordirol gwastad.
- Pellter: Tua 1km. Llwybrau: Llwybr troed arfordirol gwastad.
- Cŵn: Dylid cadw cŵn ar dennyn.
- Map: Explorer OL17.
- Lluniaeth: I'w cael mewn caffi a'r tafarnau.
Cymerwch Ofal!
- Cadwch ar yr ochr dde mewn llinell sengl pan yn cerdded ar hyd ffyrdd.
- Mae esgidiau addas yn hanfodol ar gyfer cerdded drwy gydol y flwyddyn.
Sut ydw i'n Mynd Yno?
Gweler isod am gopi PDF o lwybr y daith gerdded / taflen. Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael i'w prynu. Ewch i'n tudalen Cyhoeddiadau Cefn Gwlad am fwy o wybodaeth.
Y Côd Cefn Gwlad