Sut fath o daith yw hi?
Taith gylchol o ben Pas Sychnant gan fynd â chi dros dir mynediad agored i weld golygfeydd gwych o Ddyffryn Conwy, y Carneddau, penrhyn y Gogarth a'r arfordir.
Cerddwch drwy dirwedd sy'n cynnwys cyfoeth o nodweddion archeolegol o gylchoedd cerrig i hafotai canoloesol.
- Tirwedd: cerdded fyny bryn gydag ychydig o lethrau canolig i serth.
- Pellter: 7.2 cilomedr, 4 ½ milltir, Amser: 3 ½ awr.
- Llwybrau: llwybrau gwellt a cherrig geirwonsy'n dilyn hawliau tramwy cyhoeddus. 1 giât ac 1 gamfa.
- Cwn: ar dir mynediad mae'n rhaid ichi gadw'ch ci ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf a phob tro byddwch yn agos i dda byw. Mae'n rhaid cadw cwn dan reolaeth tyn.
- Cyfeirnod grid dechrau a gorffen: SH 755 769, Maes Parcio Parc Cenedlaethol, Map: Explorer OL17.
- Lluniaeth: ar gael yn Dwygyfylchi, Penmaenmawr a Conwy.
- Bras amcan yn unig yw'r amseroedd a pellteroedd
Paratowch ar gyfer eich taith
- Gwisgwch esgidiau cryfion
- Dillad diddos cynnes ac ewch a bwyd efo chi.
Gweler isod am gopi PDF o lwybr y daith gerdded / taflen.
Y Côd Cefn Gwlad
Mapiau: