Gwarchodfa Natur Leol Nant y Coed – nid oes mynediad drwodd rhwng mynedfa Newry Drive a maes parcio’r Tair Nant (Cyfeirnod Grid: SH69806 73586) na drwy ben uchaf Valley Road. Mae’r cerrig camu yn rhan uchaf y warchodfa wedi cau gan fod nifer o’r cerrig ar goll.
Llwybr amgen: Yn y gyffordd â Newry Drive, trowch i’r dde i barhau ar Valley Road a chroeswch y bont gyda logo’r Parc Cenedlaethol. Dilynwch y ffordd o amgylch i’r chwith ac i fyny’r bryn i gyrraedd maes parcio'r Three Streams.
Sut Fath o Daith yw Hi?
Llwybr 1
Glan y Môr Elias, Traeth Lafan, Math o Dir: Llwybr gwastad yr arfordir, Pellter: Tua 5.4 cilometr/ 3.3 milltir, Amser: Oddeutu 1 awr, Llwybrau: Palmentydd, promenade tarmac, llwybrau glaswellt. Yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Bydd angen goriad radar arnoch.
Llwybr 2
- Tyddyn Drycin, Math o Dir: Ffyrdd trefol, rhai dringfeydd a disgynfeydd cymhedrol.
- Pellter: Tua 4 cilometr/ 2.5 milltir.
- Amser: Oddeutu 1 awr.
- Llwybrau: Ffyrdd B a palmantydd, coetir a llwybrau glaswellt.
Llwybr 3
- O Amgylch y Pentref, Math o Dir: trefol, rhannol drefol a Gwarchodfa Natur Leol.
- G Esgyniad a disgyniad graddol.
- Pellter: Tua 3.6 cilometr/ 2.2 milltir.
- Amser: Oddeutu 1 awr.
- Llwybrau: palmentydd, lonydd ag wyneb
Llwybr 4
- Garreg Fawr, Math o Dir: Ffyrdd trefol, rhai dringfeydd i 364m/1194'
- Pellter: Tua 5 cilometr/ 3.1 milltir.
- Amser: Oddeutu 2 awr.
- Llwybrau: Ffyrdd B a llwybrau glaswellt
Cŵn: Dylid cadw cŵn ar dennyn.
Cyfeirnod grid Dechrau a Gorffen:
- Mae pob taith yn dechrau o groesffordd y pentref, Map: Explorer OL17.
- Lluniaeth: I'w cael yn siopau lleol a'r tafarnau.
Cymerwch Ofal!
- Cadwch ar yr ochr dde mewn llinell sengl pan yn cerdded ar hyd ffyrdd.
- Mae esgidiau addas yn hanfodol ar gyfer cerdded drwy gydol y flwyddyn.
Sut ydw i'n Mynd Yno?
- Efo trên: Mae yna arhosfan yn Llanfairfechan. Ffôn: 0845 7484950 Gwefan: www.nationalrail.co.uk
- Efo bws: Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33 www.travelinecymru.info
- Efo car: Dilynwch yr A55 i gyffordd 14 neu 15 i Lanfairfechan. Dilynwch y brif ffordd I'r groesffordd a'r goleuadau traffig. Trowch i lawr Station Road ac i faes parcio ar yr ochr dde.
Cofiwch ddilyn
Y Côd Cefn Gwlad
Mapiau: