Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaeth Ffonio a Chasglu


Summary (optional)
Eich helpu i ddarganfod y llyfr gwych nesaf
start content

Sut i ddefnyddio gwasanaeth Ffonio a Chasglu ein Llyfrgelloedd


Mae Llyfrgelloedd Conwy’n gweithio i sicrhau fod ein cyflenwad llyfrau llyfrgell ar gael yn y ffordd fwyaf diogel i’n cwsmeriaid ac i’n staff.

Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni weithio at ehangu ein cynnig llyfrgell yn unol â Chanllawiau Iechyd y Cyhoedd.

Am y tro, golyga hyn y gallwch ofyn i staff y llyfrgell ddewis detholiad o lyfrau i chi o un o’n Llyfrgelloedd.

Byddwn yn trefnu dyddiad ac amser i chi gasglu’r llyfrau o fynedfa’r llyfrgell.

  1. Llenwch y ffurflen isod gyda’ch dewisiadau darllen


    Neu ffoniwch ni ar 01492 576139 a gallwn lenwi’r ffurflen ar eich rhan dros y ffôn.
  2. Bydd staff y llyfrgell yn dewis eich llyfrau / llyfrau llafar yn seiliedig ar eich dewisiadau darllen a byddant yn eu benthyg ar eich rhif cerdyn llyfrgell.

Ni fyddwn yn llwyddo bob tro ond ein gobaith yw eich cyflwyno i lyfrau ac awduron newydd y byddwch yn eu hoffi.

 

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?