Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffioedd a thaliadau Llyfrgelloedd


Summary (optional)
start content

Gwasanaethau am ddim

Mae aelodaeth llyfrgell yn rhad ac am ddim, a bydd yn costio dim i:

  • fenthyg llyfrau, DVDs, llyfrau llafa, pecynnau iaith a dysgu agored
  • lawr lwytho, e-lyfrau, e-gylchgronau a llyfrau llafar
  • cael mynediad i'r rhyngrwyd trwy Wi-Fi, neu drwy gyfrifiaduron y llyfrgell
  • gallwch ddod i'n hamser stori i blant dan 5 oed, neu sesiwn galw heibio TG hefyd yn rhad ac am ddim

Argraffu a llungopïo

  • Du a gwyn: 30c y ddalen (A4), 60c y ddalen (A3)
  • Lliw: 70c y ddalen (A4), £1.40 y ddalen (A3) (Mae gwasanaethau argraffu a llungopïo A3 ar gael yn Llyfrgell AbergeleBae ColwynConwyLlandudnoLlanrwst).
  • Mae cyfleusterau argraffu microffilm ar gael yn Llyfrgelloedd Bae Colwyn a Llandudno, y ffioedd yw: 65c y ddalen (A4), a £1.30 y ddalen (A3).
  • Mae pob llungopi, argraffiad ac atgynyrchiadau ffotograffig yn destun rheoliadau hawlfraint.

Gwneud cais am eitemau

Mae ceisiadau am eitemau newydd ac eitemau sydd ar gael yng Nghymru yn rhad ac am ddim, os yw ceisiadau ar gyfer eitemau y tu allan i Gymru drwy Fenthyciadau Rhwng Lyfrgelloedd, y gost yw £12.00.

Taliadau am eitemau hwyr

Mae taliadau hwyr wedi eu hatal dros dro hyd at 31 Mawrth 2024.

Eitemau wedi eu colli, eu dwyn neu eu difrodi

Codir tâl ar sail y gost wirioneddol, ynghyd â ffi brosesu o £7.00. Y tâl ar gyfer eitem a fenthycwyd o wasanaethau llyfrgell arall fydd y gost llawn o'r llyfrgell fenthyg a ffi brosesu.

Cardiau llyfrgell newydd

Cerdyn llyfrgell i blentyn £1.60 ac i oedolion £2.50.

Eitemau ar werth mewn llyfrgelloedd:

  • Clustffonau: £3.00
  • Allwedd RADAR: £5.00
  • Sachau Gwastraff Masnachol: £102

Rydym hefyd yn darparu ‘Books for Keeps’, ac yn gwerthu Tocynnau Theatr, eitemau o Arddangosfeydd, llyfrau a mapiau lleol - gofynnwch i'r staff am fwy o fanylion.

Digwyddiadau a gweithgareddau yn y llyfrgell

 Mae sesiynau amser stori a gweithgareddau yn rhad ac am ddim.

Aelodaeth flynyddol y Grŵp Darllen yw £14.00 ar gyfer grwpiau a arweinir gan staff y llyfrgell, £7.00 os nad ydynt o dan arweiniad staff y llyfrgell.

Mae sesiynau galw heibio TG am ddim, ond efallai bydd yna dâl am gyrsiau TG a gaiff eu cyflwyno mewn llyfrgelloedd gan diwtoriaid TG.

Llogi ystafelloedd yn y Llyfrgell

Y taliadau am logi ystafelloedd cyfarfod yn ystod oriau agor y llyfrgell yw:

  • Ystafell fechan (hyd at 4 o bobl) £12 fesul awr
  • Ystafell fawr £14 fesul awr
  • Mae’n bosibl bod gostyngiadau ar gael. Gofynnwch i aelod o staff.

Am fwy o wybodaeth ac i weld lleoliadau’r ystafelloedd cyfarfod ewch i dudalen llogi ystafelloedd yn y Llyfrgell.

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?