Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Llyfrgelloedd, Archifau a Diwylliant Llyfrgelloedd Gwasanaethau Llyfrgell Deithiol a Llyfrgell i'r Cartref

Gwasanaethau Llyfrgell Deithiol a Llyfrgell i'r Cartref


Summary (optional)
Dod â gwasanaethau’r llyfrgell atoch chi.
start content

Llyfrgell Deithiol

Mae gwasanaeth llyfrgell deithiol rheolaidd ar gael i nifer o gymunedau yng Nghonwy. Gallwch ymuno yn y fan a’r lle, a dewis o ystod eang o eitemau sydd ar gael i'w benthyg, gan gynnwys: 

  • Llyfrau i oedolion a phlant
  • Llyfrau print bras
  • Llyfrau llafar Cymraeg a Saesneg

Mae ein llyfrgell deithiol yn gwbl hygyrch ac yn gyfeillgar i gadeiriau olwyn. Sylwch nad oes ymweliadau ar wyliau cyhoeddus neu adeg y Nadolig.

Am fwy o wybodaeth defnyddiwch ein ffurflen gysylltu neu ffoniwch (01492) 576139.

Llyfrgell i’r Cartref

Gallwn gynnig gwasanaeth llyfrgell yn uniongyrchol i'ch cartref, mewn rhai amgylchiadau. Mae'r gwasanaeth ar gyfer:

  • unigolion sy’n methu gadael eu cartref am resymau corfforol / iechyd
  • unigolion sy’n cael eu rhwystro rhag defnyddio cyfleusterau’r llyfrgell tra byddant yn gofalu am unigolion sy’n gaeth i’w cartref
  • unigolion sy’n gaeth i’w cartref heb deulu na ffrindiau all fynd i gasglu llyfrau ar eu rhan

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch (01492) 576089, neu cwblhewch a Cais ar-lein am wasanaeth llyfrgell i’r cartref

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?