Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ystod o ddangosyddion monitro perfformiad ar gyfer gwasanaethau Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru. Defnyddir y dangosyddion hyn i ddangos pa mor dda y mae awdurdodau yn perfformio, yn unigol ac yng nghyd-destun Cymru gyfan.
Mae’n rhaid i bob Awdurdod baratoi Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol erbyn canol mis Hydref bob blwyddyn. Mae ein hadroddiad Perfformiad Blynyddol ni ar gael isod, ac adroddiadau ar berfformiad ar draws ystod o feysydd gwasanaethau cynllunio.