Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyflwynwch Gais Cynllunio ar-lein


Summary (optional)
Y ffordd symlaf o gyflwyno cais cynllunio yw ar-lein trwy'r Porth Cynllunio. Mae’r broses gofrestru’n hawdd. Gallwch lenwi eich ffurflen gais, uwchlwytho dogfennau ategol a thalu ffioedd ar-lein.
start content

Y ffordd symlaf o gyflwyno cais cynllunio yw trwy’r Porth Cynllunio ar lein. Mae cofrestru yn hawdd. Gallwch gwblhau eich ffurflen, uwchlwytho’r dogfennau ategol a thalu eich ffioedd ar-lein.

Manteision gwneud cais ar lein

  • Gallwch weithio ar eich cais mewn drafft cyn ei anfon
  • Mae eich cais yn cael ei gydnabod ac yn cael ei anfon atom yn syth
  • Rydych yn arbed ar gostau postio ac argraffu
  • Mae gennych swyddogaeth cymorth ar-lein
  • Bydd gennych chi gofnod ar-lein o’r ceisiadau rydych chi wedi’u cwblhau

Os oes well gennych, gallwch gwblhau eich ffurflen ar-lein ac anfon y dogfennau ategol trwy’r post.

Cyflwyno cais cynllunio trwy’r post

Byddwn yn argymell eich bod yn cyflwyno cais ar-lein bob tro. Ond gallwch ddewis ein Ffurflenni Papur i’w lawrlwytho fel dogfennau PDF hefyd. Argraffwch y ffurflenni a’u cwblhau a’u hanfon gyda’ch ffurflenni ategol.

Y cyfeiriad post ar gyfer anfon y cais

Rheoli Datblygiad
Blwch Post 1
CONWY
LL30 9GN

Nodwch – nid oes modd i ni barhau gyda cheisiadau cynllunio nes rydym yn derbyn yr holl wybodaeth i gefnogi’r cais, ynghyd â’r ffi briodol.


Talu ffioedd cynllunio

Ar hyn o bryd, rydym yn derbyn taliad ar-lein neu dros y ffôn ar 01492 575251 / 575257 yn unig.

Mwy o wybodaeth

Cais Cynllunio a Ffioedd Ymholiad Statudol Cyn Ymgeisio, Cyngor Cyn Ymgeisio Adeilad Rhestredig a Chadwraeth, a Ffioedd Eraill (PDF, 1MB)

end content