Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o newidiadau i'r broses Gynllunio (a ddaw i rym o 16 Mawrth 2016) sy'n cynnwys:
Newidiadau i’r Datganiadau Dylunio a Mynediad (DDM) – Bydd y gofyniad i gyflwyno DDM gyda chais cynllunio ond yn berthnasol yn yr achosion canlynol
- Pob cais cynllunio ar gyfer datblygiad "mawr" ac eithrio rhai ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio; datblygiadau gwastraff; llacio amodau (ceisiadau adran '73') a cheisiadau newid defnydd sylweddol i dir neu adeiladau.
- Pob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd cadwraeth neu safle Treftadaeth y Byd sy'n cynnwys darparu un neu ragor o anheddau neu arwynebedd llawr o 100 metr sgwâr (gros) neu fwy.
Dylai'r DDM egluro'r canlynol
- egluro’r egwyddorion dylunio a'r cysyniadau sydd wedi'u gweithredu i'r datblygiad.
- dangos y camau a gymerwyd i werthuso cyd-destun y datblygiad a sut mae dyluniad y datblygiad yn ystyried y cyd-destun hwnnw.
- egluro’r polisi neu'r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad a sut y mae polisïau yn ymwneud â mynediad yn y cynllun datblygu wedi cael eu hystyried
- egluro sut yr aethpwyd i’r afael ag unrhyw un o'r materion penodol a allai effeithio ar fynediad i'r datblygiad.
Hysbysu dechrau datblygu – mae bellach angen i ddatblygwyr roi gwybod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a chyflwyno ffurflen yn nodi eu bod yn bwriadu dechrau datblygu ar gynlluniau mawr. Noder bod rhaid cydymffurfio ag unrhyw amodau perthnasol cyn dechrau datblygu
Codir tâl bellach am ddiwygiadau i geisiadau mawr nad ydynt wedi eu penderfynu - diwygiadau ar ôl cyflwyno
Am fwy o wybodaeth ac arweiniad ar yr holl newidiadau newydd i'r Broses Gynllunio gan gynnwys yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio newydd sy'n ofyniad dilysu ar gyfer datblygiad mawr o 1 Awst 2016, ewch draw i wefan Llywodraeth Cymru.