Beth yw Diwrnod Amgylcheddol Cymunedol?
Mae Diwrnodau Amgylcheddol Cymunedol yn cael eu cynnal gan y Cyngor er mwyn:
- Annog eich cymuned i fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol yn yr ardal
- Lleihau ôl-troed carbon eich cymuned gan eich helpu chi i ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosibl
- Eich cefnogi chi a thrigolion eraill i greu awyrgylch o falchder bro yn eich cymuned
Pa wasanaethau sydd ar gael?
- Bydd staff y Cyngor a grwpiau gwirfoddol dan oruchwyliaeth o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol Cymru yn codi sbwriel ac yn cael gwared ar dipio anghyfreithlon
- Bydd y Tîm Ymateb Amgylcheddol yn ymgymryd â thasgau bychain fel glanhau graffiti, peintio a chlirio draeniau
- Compost am ddim: dewch â chynhwysydd addas efo chi i ddal y compost
- Gwasanaeth gwaredu gwastraff swmpus: bydd sgip a gweithiwr wrth law i’ch helpu chi waredu eitemau swmpus (fel matresi, hen welyau, tuniau paent, setiau teledu, dodrefn gardd ac ati) neu wastraff gardd Byddwn yn mynd â’r holl bethau yn ôl i’n cyfleuster didoli i ailgylchu cymaint ohonynt â phosibl.
Ni allwn gasglu gwastraff swmpus o’ch cartref ar ddyddiau amgylcheddol. Os na allwch chi ddod â’ch gwastraff swmpus i’n sgip ni, gallwch archebu a thalu am gasgliad gwastraff swmpus ar lein neu ffonio ein Tîm Cyngor ar 01492 575337.
Lle a phryd mae'r Diwrnodau Amgylcheddol Cymunedol?
Os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â Diwrnodau Amgylcheddol, defnyddiwch y ffurflen Cysylltu â Ni