Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn cael ei redeg gan Bryson Recycling. Gallwch gysylltu Bryson ar 01492 555898 neu ewch i https://www.brysonrecycling.org/wales/gwastraffgardd/
Gwasanaeth i gasglu gwastraff
Cost y gwasanaeth yw £40 am 12 mis, gan gynnwys un bin 240l ar olwynion wedi’i ddanfon at eich drws.
Cewch brynu biniau ychwanegol (uchafswm o 3) am £20 yr un.
- Casgliad rheolaidd bob pythefnos
- Bin ar olwynion sy’n hawdd i’w ddefnyddio – dim mwy o fagiau trwm
- Dim angen ymweld â’r ganolfan ailgylchu
- Un taliad o £40 y flwyddyn - yn costio £3.33 y mis yn unig
Sut ydw i’n cofrestru i danysgrifio?
Gallwch gofrestru ar-lein ar www.brysonrecycling.org/gardenwaste neu ffonio 01492 555898.
Pwy sy’n darparu’r gwasanaeth hwn?
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei reoli gan Bryson Recycling ar ran y Cyngor.
A oes modd i mi gofrestru ar unrhyw adeg?
Mae tanysgrifiadau’n dechrau fis Ebrill - gallwch gofrestru unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond byddwch chi’n talu am y 12 mis llawn.
Faint o fagiau llawn y gellir eu rhoi yn y bin 240I newydd?
Mae’r bagiau yn 120I, felly gellir rhoi cyfwerth â 2 hen fag gwastraff gardd yn y bin newydd. Dim ond un neu ddau fag y mae nifer o aelwydydd yn eu rhoi allan i’w casglu, ac felly ni fyddai arnynt angen mwy nag un bin.
A oes modd i mi gael mwy nag un bin gwastraff gwyrdd?
Oes - cewch ychwanegu hyd at 3 bin ychwanegol at eich tanysgrifiad am £20 yr un, yn cynnwys casgliadau.
Nid oes gennyf le i gadw bin gwastraff gardd – ga’ i ddefnyddio’r hen sachau gwyrdd yn lle?
Bydd gan y rhan fwyaf o gartrefi le i fin gwastraff gardd, sef y ffordd hawsaf o ailgylchu. Os nad yw bin yn addas ar gyfer eich cartref chi, cysylltwch â Bryson ar 01492 555898.
A oes modd i mi dalu am gasgliad un tro yn unig?
Nac oes - dim ond tanysgrifiad ydym ni’n ei gynnig.
Beth allaf roi yn y bin gwastraff gardd?
Mae'r casgliad ymyl palmant gwastraff gardd ar gyfer:
- Glaswellt
- Dail
- Planhigion bach a brigau
- Chwyn nad ydynt yn ymledol
Nid ydym yn casglu:
- Pridd
- Rwbel
- Canghennau mawrBagiau compost, potiau a sbwriel arall
- Gwastraff anifeiliaid
- Chwyn ymledol megis Llysiau'r Dial neu Efwr Enfawr na ellir eu compostio yn ôl y gyfraith. Os ydych angen cyngor ar sut i ddelio â phlanhigion ymledol cliciwch yma am arweiniad gan Lywodraeth Cymru
Beth os oes gennyf lwyth o wastraff gardd?
Gellir mynd â llwythi mawr o wastraff gardd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Nid oes gennyf ddigon o wastraff gardd i dalu am danysgrifiad. Beth arall allaf ei wneud gyda fy ngwastraff gardd? A oes modd i mi gael gostyngiad?
Nid ydym yn gallu cynnig gostyngiadau. Ond mae ffyrdd eraill o gael gwared ar eich gwastraff gardd:
- Defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 9am a 4pm). Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.
- Defnyddio’r Ganolfan Ailgylchu Symudol unwaith y mis ar fore Sadwrn, sydd ar agor rhwng 9am ac 11am:
- Cerrigydrudion - y dydd Sadwrn cyntaf o bob mis
- Llanrwst - yr ail ddydd Sadwrn o bob mis
- Llangernyw - y trydydd dydd Sadwrn o bob mis
- Defnyddio compostiwr cartref
- Torri eich gwastraff gardd yn fân i’w ddefnyddio fel tomwellt
- Rhannu tanysgrifiad bin gwastraff gardd gyda chymydog
Beth sy’n digwydd os ydw i’n symud i fyw yn ystod fy nhanysgrifiad?
Os ydych chi’n symud i gyfeiriad arall yn Sir Conwy, gallwch fynd â’ch tanysgrifiad gyda chi os gwnewch chi roi gwybod i ni. Os ydych chi’n symud o Sir Conwy, bydd eich tanysgrifiad yn aros gyda’r eiddo.
Beth os ydw i angen cymorth gyda chasgliad?
Os nad oes gennych rywun i’ch helpu chi, gallwch ofyn am gymorth gyda chasgliad os ydych yn ei chael hi’n anodd symud eich bin i ymyl y palmant ar ddiwrnod casglu.
Pam ydych chi’n codi tâl am gasglu gwastraff gardd? Nid yw treth y cyngor yn talu am hynny?
Nid yw'n orfodol i’r Cyngor ddarparu casgliadau gwastraff gardd am ddim i gartrefi. Mae’r gyfraith yn dweud y gallwn godi ffi resymol am gasglu gwastraff gardd, yn yr un modd ag y codwn ffioedd am gasgliadau gwastraff swmpus. Ond mae'n ddyletswydd arnom i gael gwared ar wastraff gardd yn rhad ac am ddim, felly bydd hyn yn parhau am ddim yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
A yw Cynghorau eraill yn codi ffi am gasglu gwastraff gardd?
Ydyn, gan gynnwys Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Beth ddylwn i ei wneud gyda’r hen sachau gwyrdd?
Gallwch ddefnyddio’ch hen sachau gwyrdd i symud gwastraff o’ch gardd neu ar gyfer storio.
Oni fydd y ffioedd hyn yn annog tipio anghyfreithlon?
Mae'r rhan fwyaf o drigolion yn ufuddhau i’r gyfraith a fydden nhw byth yn tipio eu gwastraff yn anghyfreithlon. Cyn i ni gyflwyno casgliadau gwastraff gardd yn 2007, chawson ni ddim problemau penodol o ran tipio gwastraff yn anghyfreithlon Does dim tystiolaeth gan gynghorau eraill bod tipio anghyfreithlon yn cynyddu gyda gwasanaeth casglu gwastraff gardd y telir amdano.