Os ydych yn byw mewn ardal wledig, gallwch ffonio Crest ar 01492 596783 i drefnu eich casgliad.
Mae eich bag pinc ar gyfer eitemau trydanol bach yn cael ei gasglu wrth ymyl ochr y ffordd bob pythefnos. Mae’r eitemau yn cael eu trwsio ac yn cael eu hailddefnyddio gan Crest Cooperative.
Oes plîs:
- Chwaraewyr MP3, CD a DVD
- Teganau trydanol
- Ffonau symudol
- Gliniaduron
- Consolau gemau
- Tostwyr, tegelli, heyrn smwddio
- Radios
- Raseli
- Brwsys Dannedd
- Trydanol/Sychwyr Gwallt
- Offer Pŵer
- e-sigaréts - os oes modd, tynnwch y batri a’i roi yn eich bag ailgylchu batris
Dim Diolch:
- Mae batris yn cael eu casglu’n wythnosol o’ch bag gwyn ailgylchu batris
- Ni fydd offer trydanol mawr fel setiau teledu, oergelloedd neu beiriannau golchi yn cael eu casglu fel rhan o'r gwasanaeth hwn
Ewch ag eitemau mawr i Ganolfannau Ailgylchu Mochdre ac Abergele, neu ffoniwch Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 01492 575337 i archebu casgliad gwastraff swmpus
Cysylltwch â Crest i gael bagiau pinc eraill ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk. Gallwch hefyd gael y bagiau hyn o’ch llyfrgell leol.
Ffoniwch Crest am fagiau pinc newydd ar 01492 596783.
Dim Casgliad dros y Nadolig
Nid fydd offer trydanol yn cael eu casglu yn ystod wythnos y Nadolig na’r Flwyddyn Newydd. Os oes arnoch angen gwaredu eitemau trydanol yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref. Bydd casgliadau’n ail-ddechrau yn ystod yr ail wythnos ym mis Ionawr. Gweler y calendr casgliadau neu gwiriwch eich dyddiad casglu am ragor o wybodaeth.
Gweler hefyd: