Gallwch weld y wybodaeth ailgylchu mewn Iaith Arwyddion Prydain yma.
Math o Gynhwysydd | Deunyddiau |
Trolibocs (blwch uchaf) neu Fag Gwyrdd
 |
Papur newydd Papur swyddfa Cylchgronau Post sothach Amlenni gwyn a lliw Cyfeirlyfrau Catalogau Cardiau cyfarch Cerdyn gwyn, llwyd ac wedi ei liwio Bocsys wyau Tiwbiau papur toiled Llyfrau heb feingefn neu gloriau |
Trolibocs (blwch canol) neu Fag Gwyn
 |
Poteli plastig Cynwysyddion plastig a thybiau Cartonau diod Cartonau Tetra Pak Caniau a thuniau bwyd a diod Erosolau Ffoil
Dim bagiau plastig na deunydd lapio plastig, dim plastig caled fel teganau neu fowlenni golchi llestri.
Golchwch cyn i chi ailgylchu - gwasgwch eich deunydd ailgylchi i greu mwy o le.
|
Trolibocs (blwch gwaelod) neu Flwch Gwyrdd
 |
Poteli a jariau yn unig Cardbord brown
Dim gwydr wedi torri - lapiwch wydr a llestri wedi torri yn ddiogel a’u rhoi yn eich bin du.
|
Bin Gwastraff Bwyd
 |
Cig Pysgod Esgyrn Ffrwythau Llysiau Pasta Bara Bagiau te Papur cegin Bwyd Anifeiliaid Anwes
Dim gwastraff anifeiliaid anwes.
|
Sach ailgylchu cardfwrdd

|
Cardbord brown Cardbord pacio brown Cardbord brown printiedig Cardbord rhychiog Tiwbiau cardbord cryf
|
Bag batris
 |
Batris cartref Batris y gellir eu hailwefru |
Bag Tecstilau
 |
Dillad glân Esgidiau (wedi’u clymu mewn parau) Bagiau llaw Beltiau
Peidiwch â rhoi bric-a-brac yn eich bag casglu tecstilau piws os gwelwch yn dda.
Cysylltwch â Crest i gael bagiau piws eraill ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk Gallwch hefyd gael y bagiau hyn o’ch llyfrgell leol.
Os ydych yn byw mewn ardal wledig ffoniwch 01492 596783 i drefnu eich casgliad.
Ffoniwch Crest am fagiau porffor newydd ar 01492 596783.
|
Bag Eitemau Electronig Bach
 |
Unrhyw offer bach sy'n ffitio yn y bag, e.e. Teganau electronig Gliniaduron Ffonau Symudol Chwaraewyr CD/DVD Consolau Eillwyr Sychwyr/sythwyr gwallt.
Cysylltwch â Crest i gael bagiau pinc eraill ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk. Gallwch hefyd gael y bagiau hyn o’ch llyfrgell leol.
Os ydych yn byw mewn ardal wledig ffoniwch 01492 596783 i drefnu eich casgliad.
Ffoniwch Crest am fagiau pinc newydd ar 01492 596783.
|
Bag Podiau Coffi Podback
 |
Dylech ailgylchu podiau plastig ac alwminiwm gan ddefnyddio bagiau casglu Podback - bagiau gwyn ar gyfer podiau alwminiwm, bagiau gwyrdd ar gyfer podiau plastig.
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Podback i gael bagiau.
Cofrestrwch ac archebwch eich bagiau ailgylchu AM DDIM ar wefan Podback.
|
Bin Sbwriel
 |
Bagiau a deunydd lapio plastig Ffilm blastig Gwastraff anifeiliaid Pecynnau creision Polystyren Clytiau
Lapiwch wydr a llestri wedi torri yn ddiogel a’u rhoi yn eich bin du.
|
Os yw’r criw casglu yn sylwi are item anghywir yn eich Trolibocs (megis ffilm plastig yn y bocs plastig) bydd yr eitem hon yn cael ei gadael ar ôl.
Deunydd lapio plastig a bagiau plastig
Ni allwn gymryd y rhain yn eich bocsys ailgylchu ymyl y ffordd. Mae yna fannau casglu mewn llawer o archfarchnadoedd lleol. Gall gwefan Cymru Yn Ailgylchu eich helpu i ddod o hyd i'ch man casglu agosaf.
Bylbiau golau
Gallwch ailgylchu bylbiau golau rhad-ar-ynni yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a rhai siopau.
Nid oes modd ailgylchu bylbiau hŷn ‘traddodiadol’ a dylid eu rhoi yn eich bin du.
Clytiau a chynhyrchion anymataliaeth
Ydych chi’n defnyddio llawer o glytiau neu gynhyrchion anymataliaeth? Dewch i wybod mwy am ein Gwasanaeth Casglu Clytiau Tafladwy a Chynhyrchion Anymataliaeth.
Gwastraff meddygol
Rhaid mynd â nodwyddau a chwistrellau i fan cyfnewid nodwyddau - holwch eich meddyg os nad oes gennych flwch offer miniog.
Os oes gennych wastraff clinigol heintus cysylltwch â'ch nyrs gymunedol i drefnu gwasanaeth casglu gwastraff clinigol gan y Bwrdd Iechyd.
Dal ddim yn siŵr?
Os nad ydych yn siŵr pa fin neu gynhwysydd y dylech ei ddefnyddio neu os oes angen cyngor arnoch ar ailgylchu cysylltwch â'r Tîm Cynghori neu ffonio 01492 575337.
Gallwch hefyd anfon llun o unrhyw eitem nad ydych yn siŵr ohonynt i affch@conwy.gov.uk , a gallwn roi gwybod i chi a oes modd ei ailgylchu.