Nodau ac amcanion y cwrs:
Mae Atal a Rheoli Heintiau yn elfen allweddol ac yn hanfodol ar gyfer lles y bobl sydd angen cefnogaeth a’u Gweithwyr Gofal. Bydd yr adnodd hyfforddi Gofal Cartref hwn yn darparu cefnogaeth sylweddol i sicrhau eich bod yn deall ac yn cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol, ynghyd â gwella'ch sgiliau a'ch gwybodaeth yn y maes hwn yn sylweddol.
Mae'r DVD yn cyfeirio at Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Lloegr) - Darllenwch ddeddfwriaeth Cymru social-services-and-well-being-wales-act-2014-the-essentials.pdf (gov.wales), hefyd gwneir cyfeiriad at Reoliadau Hylendid Bwyd (Lloegr) 2016 - dilynwch y ddolen i’r Safonau Hylendid bwyd yn lle https://www.food.gov.uk/cy/food-safety
Manylion y cwrs:
Hyd y cwrs: 35 munud gan gynnwys Cwis Asesu
- Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
- Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
- Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk
Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.