Nodau ac amcanion y cwrs:
Wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer y rhai sy'n darparu gofal mewn lleoliadau Gofal Cartref, bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i'r mathau o dasgau y gallai fod disgwyl i chi eu cyflawni a'r ystod o unigolion y gallech ddod i gysylltiad â nhw.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn ystyried pwysigrwydd gweithio o fewn ffiniau proffesiynol a pham ei bod yn angenrheidiol deall a dilyn polisïau a gweithdrefnau. Yn ogystal, mae'n mynd ymlaen i edrych ar yr hawliau sydd gan unigolion i gymryd risgiau yn eu bywydau, a sut y gall yr asesiad risg gynorthwyo i'w hamddiffyn rhag niwed. Mae hefyd yn ystyried ystyr cyfle cyfartal ac amrywiaeth.
Manylion y cwrs:
Hyd y cwrs: 1 awr gan gynnwys Cwis Asesu
- Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
- Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
- Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk
Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.