Dyddiadau
- 2024: 9 Ebrill, 16 Mai, 10 Mehefin, 8 Gorffennaf, 13 Awst, 24 Medi, 17 Hydref, 11 Tachwedd, 3 Rhagfyr
- 2025: 6 Ionawr, 17 Chwefror, 11 Mawrth
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 4:30pm (9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru)
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Tîm Dysgu a Datblygu'r Gweithlu Conwy
- Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd, Y Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth
- Grŵp targed: Ni ddylai mynychwyr fod wedi mynychu sesiwn Diogelu Sylfaenol Cymru Gyfan o fewn y 3 blynedd ddiwethaf
Nodau ac amcanion y cwrs
Byddwch eisoes wedi cwblhau dysgu Grŵp A.
Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu byddwch yn:
- gwybod am y ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol, codau ymddygiad ac arferion proffesiynol sy’n adlewyrchu eich rôl o ran diogelu
- gallu disgrifio sut i weithio mewn modd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod
- gwybod sut i fod yn chwilfrydig pan fyddwch yn dod ar draws camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu’n ei amau, neu os bydd rhywun yn dweud wrthych eu bod yn cael eu cam-drin
- gallu egluro’r ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a all arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod
- gwybod sut, pryd ac i bwy y dylid adrodd am wahanol fathau o gamdriniaeth, niwed ac esgeulustod
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.