Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Datblygu ac Addysgu Gweithlu Digwyddiadau Dysgu Diogelu Cyrsiau Diogelu Unbroken - Ymddygiad sy'n Rheoli ac Ymddygiad Cymhellol Realiti Rhithwir (VR)

Unbroken - Ymddygiad sy'n Rheoli ac Ymddygiad Cymhellol Realiti Rhithwir (VR)


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024: 10 Medi, 11 Medi, 17 Medi, 25 Medi, 26 Medi

Manylion y cwrs

  • Amser: 9:45am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru, 10.00am - 16.00pm
  • Lleoliad: Coed Pella
  • Hyfforddwr: Mother Mountain Productions
  • Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau a Gomisiynir, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Safonau Ansawdd, Y Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofalwyr Maeth, Tîm Datblygu a Dysgu Gweithlu Conwy
  • Grŵp targed: Gweithwyr Proffesiynol sy'n dymuno cael gwell dealltwriaeth o Ymddygiad sy’n Rheoli ac Ymddygiad Cymhellol

Nodau ac amcanion y cwrs

Cynnwys y cwrs:

  • Mae’r hyfforddiant hwn yn defnyddio cyfarpar realiti rhithwir i helpu i wella dealltwriaeth o beth mae dioddefwyr ymddygiad sy’n rheoli ac ymddygiad cymhellol yn ei brofi.
  • Y nod yw bod mynychwyr yn adnabod arwyddion yn well ac yn ehangu eu gwybodaeth o drosedd domestig o safbwynt gwahanol er mwyn gwarchod dioddefwyr ac erlid troseddwyr yn well.
  • Mae’r sesiwn hyfforddiant yn gweithio drwy gludo mynychwyr yn syth i esgidiau dioddefwyr rheolaeth drwy orfodaeth wrth iddynt wisgo pensetiau realiti rhithwir.
  • Mae mynychwyr yn profi nifer o senarios yn seiliedig ar straeon bywyd go iawn, sy’n cael ei chwarae gan actorion, gyda’r mynychwyr yn cael eu hyfforddi i’w weld o safbwynt y dioddefwr.
  • Mae pob sesiwn yn arddangos arwyddion cynnil o reolaeth drwy orfodaeth, gan gynnwys gormodedd o sylw cariadus, chwarae triciau meddyliol a gwrthod cyfathrebu.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content