Dyddiadau
- 2024: 17 Hydref, 14 Tachwedd, 23 Ionawr
Manylion y cwrs
- Amser: 13:45pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru, 14:00pm - 16:30pm
- Lleoliad: Coed Pella
- Hyfforddwr: Alys Jones - Uned Diogelu Conwy
- Gwasanaethau targed: Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs)
- Grŵp targed: Mae’r sesiynau ar gyfer darparwyr sy’n gweithio yn Sir Conwy gydag oedolion yn y maes gofal cymdeithasol a iechyd sydd angen cynnal asesiadau galluedd meddyliol
Nodau ac amcanion y cwrs
Nod: Nod y sesiwn yw dysgu mynychwyr sydd i ddefnyddio fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol er mwyn arfer asesu galluedd unigolyn. Mae’r sesiynau ar gyfer darparwyr sy’n gweithio yn Sir Conwy gydag oedolion yn y maes gofal cymdeithasol a iechyd.
Canlyniadau dysgu:
- Trosolwg bras o’r fframwaith cyfreithiol a’r gyfraith achosion berthnasol.
- Sgiliau ymarferol paratoi a chynnal Asesiadau Galluedd Meddyliol.
- Deall a defnyddio’r asesiad gweithredol a diagnosteg.
- Sgiliau triongli gwybodaeth er mwyn dadansoddi a dod i ganlyniadau ynglŷn â galluedd.
- Defnyddio’r cysylltiad achosol.
- Hwyluso trafodaeth ar gymhlethdodau Galluedd Meddyliol.
- Cyfeirio at adnoddau defnyddiol.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.