Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cadernid Digidol


Summary (optional)
start content

Dyddiad

  • 2024: 23 Hydref
  • 2025: 8 Ionawr

Manylion y cwrs

  • Amser: 9.45 - 12.30 (9:45 cyrraedd i gael te/coffi a chofrestru)
  • Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
  • Hyfforddwr: Lucy Faithful - Stop it Now
  • Gwasanaethau Targed: Busnes a Thrawsnewid, Gwaith Cymdeithasol Ysbytai a Phobl Hŷn, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cymorth ac Ymyrraeth i Deuluoedd, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth, Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs) 
  • Grŵp Targed: Gweithwyr Proffesiynol sy’n gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc

Nodau ac amcanion y cwrs

Sesiwn anffurfiol 2 awr o hyd i addysgu a meithrin hyder cyfranogwyr ynglŷn â materion sy’n ymwneud â diogelwch ar y rhyngrwyd ac amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin ar-lein. Mae’r wybodaeth wedi’i haddasu ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol. 

Bydd y Sesiwn yn cynnwys:

  • Trafodaeth am sut mae’r rhyngrwyd yn cael ei defnyddio mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol
  • Sut mae pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd i gam-drin plant
  • Materion sy’n ymwneud â meithrin perthynas amhriodol ar lein, secstio, seiber-fwlio ac edrych ar ddelweddau anghyfreithlon o blant
  • Camau ataliol cadarnhaol i’w cymryd i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin ar lein.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych chi wedi archebu lle ar y cwrs ond heb dderbyn hysbysiad i fynychu, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd i unrhyw gwrs heb fod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi, gan y gall y digwyddiad fod yn llawn.

end content