Dyddiadau
- 2024: 12 Medi, 7 Tachwedd
- 2025: 20 Chwefror
Manylion y cwrs
- Amser: 9:30am tan 12:30pm
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Gwasanaethau targed: Tîm Anabledd, Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbytai, Tîm Pobl Ddiamddiffyn
- Grŵp targed: Swyddogion Asesiadau Ariannol a Dirprwyon. Staff mewnol Gofal Cymdeithasol i Oedolion - timau gwaith cymdeithasol, tîm ailalluogi a thimau anabledd a phobl ddiamddiffyn
Nodau ac amcanion y cwrs
Nod y gweithdy yw:
- Sicrhau dealltwriaeth gadarn o’r mathau o gam-drin ariannol.
- Sicrhau cyfrifoldeb unigol am wneud penderfyniadau yng nghyd-destun cymorth priodol.
- Gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i atgyfeirio pryder ynghylch cam-drin ariannol.
- Sicrhau eich bod yn deall y cyd-destun deddfwriaethol mewn perthynas â cham-drin ariannol a magu hyder i gymryd y camau cyfreithiol a threfniadol ymhob achos.
- Meithrin dull cyson ar draws yr awdurdod i ymateb i achosion o gam-drin ariannol.
- Nodi hyder a chymhwysedd yn y maes ymarfer hwn, yn ogystal ag anghenion cymorth ychwanegol.
- Datblygu chwilfrydedd proffesiynol wrth ddelio gydag achosion posibl o gam-drin ariannol.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.