Dyddiad
Manylion y Cwrs
- Amser: 8:45am arrival for tea/coffee and registration. 9.00am-3pm
- Lleoliad: Microsoft Teams
- Hyfforddwr: Hoarding Disorders UK
- Gwasanaethau Targed: Busnes a Thrawsnewid, Pobl Hŷn, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy'n Derbyn Gofal, Gwasanaethau Wedi'u Comisiynu (PIV)
- Grŵp targed: Unrhyw un sy'n gweithio gydag Oedolion sy'n dymuno derbyn gwell dealltwriaeth o Gelcio
Nodau ac amcanion y cwrs
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gelcio - Bydd Cam 1 yn cynnwys 3 maes allweddol:
Deall Celcio
- Gwybodaeth am hanes celcio
- Deall beth yw anhwylder celcio ac anrhefn gronig, a’r gwahaniaeth rhwng y rhain ac annibendod eithafol
- Gallu nodi pwy y gall yr anhwylder effeithio arnynt
- Deall sawl ffactor cyfrannol a sbardun sy’n bresennol mewn achosion o anhwylder celcio, anrhefn gronig, ac annibendod eithafol a sut y gellir defnyddio’r rhain i benderfynu ar y ffordd orau o helpu
- Deall a gallu adnabod nodweddion cyffredin celcio i ddarparu’r gefnogaeth fwyaf priodol ar gyfer yr unigolyn
- Deall effaith celcio.
Sut i helpu
- Deall beth yw Delweddau Mesur Annibendod a sut y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith amlasiantaeth, adrodd, a mynd drwy’r drws
- Sefydlu pwy yn eich ardal leol all eich helpu drwy waith amlasiantaeth
- Gallu clirio gyda rhywun a / neu awgrymu sut i wneud hynny
- Deall pwysigrwydd ysgogiad y cleient a’u helpu i’w ganfod
- Cydnabod pwysigrwydd y lleoliadau priodol ar gyfer eiddo
- Deall pwysigrwydd grwpiau cefnogi a sut maent yn helpu
- Gallu gweithio’n fwy effeithiol gyda chleientiaid ar ôl dysgu’r pethau y dylid eu gwneud ac na ddylid eu gwneud.
Gwybodaeth bellach
- Deall y brif ddeddfwriaeth a sut y gellir ei chymhwyso - Deddf Gofal, Deddf Galluedd Meddyliol ac Iechyd yr Amgylchedd
- Gallu canolbwyntio ar leihau niwed gyda’r wybodaeth mai diogelwch yw’r flaenoriaeth
- Deall pa dechnegau a theclynnau y gellir eu cymhwyso o ran asesiad HOMES, cymorth therapiwtig, Cyfweld Ysgogiadol, newid, presgripsiynu cymdeithasol, grymuso, meithrin perthynas ac ymddiriedaeth a ffurflen torri’r iâ
- Canolbwyntio ar eich gwydnwch emosiynol chi a sicrhau eich bod yn defnyddio strategaethau i sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.