Dyddiadau
- 2024: 23 Hydref
- 2025: 8 Ionawr
Manylion y cwrs
- Amser: 10:00am tan 12:30pm, 09:45 cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru (8 Ionawr) | 14:00am tan 16:30pm, 13:45 cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru (23 Hydref)
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Lucy Faithful - Stop it now
- Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth, Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs)
- Grŵp targed: Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Nodau ac amcanion y cwrs
Sesiynau 2 awr anffurfiol i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut y gall cam-fanteisio’n rhywiol ar blant ddigwydd, beth yw’r risg i blant a phobl ifanc a pha gamau y gellir eu cymryd. Rydym yn rhoi hyder i rieni a gofalwyr i geisio cael cymorth ac i weithredu os oes angen iddynt wneud hynny.
Bydd y Sesiwn yn cynnwys:
- Y ffeithiau ynglŷn â cham-drin rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol a sut y gall ddigwydd
- Sut mae camdrinwyr yn meithrin perthynas amhriodol gyda’u dioddefwyr
- Pam nad yw dioddefwyr yn siarad am beth sy’n digwydd
- Gweld arwyddion yn ymddygiad plentyn
- Camau gweithredu ataliol cadarnhaol i’w cymryd i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cam-fanteisio
- Gweithredu ar bryderon, rhoi ffynonellau o wybodaeth, cefnogaeth neu gyngor
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.